Cymysgeddau
Mae cymysgedd wedi’i wneud o sylweddau gwahanol sydd heb eu cysylltu’n gemegol.
Er enghraifft, drwy gymysgu powdr haearn a phowdr sylffwr â’i gilydd, rydyn ni’n cael cymysgedd o haearn a sylffwr. Gallwn ni eu gwahanu nhw oddi wrth ei gilydd heb adwaith cemegol, yn union fel dewis melysion lliw gwahanol o becyn cymysg a’u rhoi nhw mewn pentyrrau ar wahân.
Weithiau, mae purdeb sylwedd yn bwysig iawn. Er enghraifft, rhaid i feddyginiaeth beidio â chynnwys cemegion niweidiol.
Cymysgeddau a chyfansoddion
Mae gan gymysgeddau briodweddau gwahanol i cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau.. Mae’r tabl yn crynhoi’r gwahaniaethau hyn.
| Cymysgedd | Cyfansoddyn | |
| Cyfansoddiad | Cyfansoddiad yn amrywio – galli di amrywio faint o bob sylwedd sydd mewn cymysgedd | Cyfansoddiad pendant – alli di ddim amrywio faint o bob elfen sydd mewn cyfansoddyn |
| Wedi’u cysylltu neu beidio | Does dim cysylltiadau cemegol rhwng y sylweddau gwahanol | Mae cysylltiadau cemegol rhwng yr elfennau gwahanol |
| Priodweddau | Mae pob sylwedd yn y cymysgedd yn cadw ei briodweddau ei hun | Mae priodweddau’r cyfansoddyn yn wahanol i briodweddau’r elfennau sydd ynddo |
| Gwahanu | Mae’n hawdd gwahanu pob sylwedd o’r cymysgedd | Dim ond adwaith cemegol sy’n gallu ei wahanu i roi ei elfennau |
| Enghreifftiau | Aer, dŵr y môr, y rhan fwyaf o greigiau | Dŵr, carbon deuocsid, magnesiwm ocsid, sodiwm clorid |
| Cyfansoddiad | |
|---|---|
| Cymysgedd | Cyfansoddiad yn amrywio – galli di amrywio faint o bob sylwedd sydd mewn cymysgedd |
| Cyfansoddyn | Cyfansoddiad pendant – alli di ddim amrywio faint o bob elfen sydd mewn cyfansoddyn |
| Wedi’u cysylltu neu beidio | |
|---|---|
| Cymysgedd | Does dim cysylltiadau cemegol rhwng y sylweddau gwahanol |
| Cyfansoddyn | Mae cysylltiadau cemegol rhwng yr elfennau gwahanol |
| Priodweddau | |
|---|---|
| Cymysgedd | Mae pob sylwedd yn y cymysgedd yn cadw ei briodweddau ei hun |
| Cyfansoddyn | Mae priodweddau’r cyfansoddyn yn wahanol i briodweddau’r elfennau sydd ynddo |
| Gwahanu | |
|---|---|
| Cymysgedd | Mae’n hawdd gwahanu pob sylwedd o’r cymysgedd |
| Cyfansoddyn | Dim ond adwaith cemegol sy’n gallu ei wahanu i roi ei elfennau |
| Enghreifftiau | |
|---|---|
| Cymysgedd | Aer, dŵr y môr, y rhan fwyaf o greigiau |
| Cyfansoddyn | Dŵr, carbon deuocsid, magnesiwm ocsid, sodiwm clorid |
Enghraifft – haearn, sylffwr a haearn sylffid
Mae haearn a sylffwr yn adweithio â’i gilydd wrth gael eu gwresogi i wneud cyfansoddyn o’r enw haearn sylffid.
Dyma rai o’r gwahaniaethau rhwng cymysgedd o haearn a sylffwr, a haearn sylffid:
- mae’r cymysgedd yn gallu cynnwys mwy neu lai o haearn, ond mae haearn sylffid bob amser yn cynnwys yr un faint o haearn a sylffwr
- dydy’r atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. haearn a sylffwr ddim wedi’u cysylltu â’i gilydd yn y cymysgedd, ond maen nhw wedi’u cysylltu â’i gilydd mewn haearn sylffid
- mae’r haearn a’r sylffwr yn dal i ymddwyn fel haearn a sylffwr yn y cymysgedd, ond mae gan haearn sylffid briodweddau gwahanol i haearn a sylffwr
- galli di ddefnyddio magnet i wahanu’r haearn o’r cymysgedd, ond dydy hyn ddim yn gweithio i haearn sylffid