Technegau gwahanu
Hidlo
Rydyn ni’n defnyddio’r dechneg hon i wahanu solid anhydawdd oddi wrth hylif. Fel hyn, gallwn ni wahanu cynnyrch oddi wrth gemegion sydd heb adweithio, sgil gynhyrchion neu hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant..
Image caption, Gwahanu solidau anhydawdd
1. Mewn un bicer, mae cymysgedd o solid a hylif. Yn y llall, mae twndis hidlo a phapur hidlo
Image caption, 2. Arllwys y cymysgedd solid a hylif i mewn i’r twndis hidlo
Image caption, 3. Yr hylif yn diferu drwy’r papur hidlo, ond gronynnau’r solid yn cael eu dal yn y papur hidlo
1 of 3
Anweddu
Pan mae cynnyrch yn cael ei wneud fel hydoddiant, un ffordd o’i wahanu oddi wrth yr hydoddydd yw drwy wneud grisialau. Mae hyn yn golygu anwedduY broses lle mae hylif yn newid cyflwr ac yn troi'n nwy. yr hydoddiant i gyfaint llawer llai ac yna gadael iddo oeri. Wrth i’r hydoddiant oeri, mae grisialau’n ffurfio, a gallwn ni gael y rhain drwy hidlo.
Distyllu syml
Mae distyllu’n gwahanu hylif oddi wrth hydoddiant. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio distyllu syml i wahanu dŵr o heli. Mae’r dull hwn yn gweithio oherwydd mae’r dŵr yn anweddu o’r hydoddiant, ond yna’n cael ei oeri a’i cyddwysoNewid mewn cyflwr yw cyddwysiad lle mae nwy yn troi’n hylif wrth oeri. i gynhwysydd arall. Dydy’r halen ddim yn anweddu, felly mae’n aros ar ôl.
Gwahanu hylif oddi wrth hydoddiant
Image caption, Distyllu syml
1. Gwresogi dŵr hallt
Image caption, 2. Yr anwedd dŵr yn oeri yn y cyddwysydd ac yn diferu i mewn i ficer
Image caption, 3. Mae’r dŵr wedi cyddwyso ac mae nawr yn y bicer, a’r halen yn aros ar ôl
1 of 3