Gwahanu cymysgeddauNewid cemegol a ffisegol

Rydyn ni’n defnyddio gwahanol dechnegau arbrofol i wahanu amrywiaeth o gymysgeddau i roi sylweddau unigol. Hefyd, mae nifer o ffyrdd o ddweud y gwahaniaeth rhwng newidiadau ffisegol a chemegol.

Part ofCemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Newid cemegol a ffisegol

Newid cemegol

Pan mae adwaith cemegol yn digwydd, dydy atomau ddim yn cael eu creu na’u dinistrio. Yn lle hynny, mae atomau’n ad-drefnu eu hunain i ffurfio cemegion newydd. Newid cemegol yw hyn.

Newid ffisegol

Y math arall o newid mewn cemeg yw newid ffisegol, sef pan mae sylwedd yn newid heb droi’n gemegyn newydd. Yn aml, newidiadau cyflwr fydd y newidiadau ffisegol hyn, fel toddi, rhewi, berwi, cyddwyso a hydoddi.

Mae crynodeb o’r gwahaniaethau rhwng y ddau fath o newid isod.

Newid ffisegolNewid cemegol
SylweddauDim sylweddau newydd yn ffurfioMae sylweddau newydd (sef y cynhyrchion) yn ffurfio wrth i’r cemegion gwreiddiol (sef yr adweithyddion) adweithio
Hawdd gwrthdroi?Fel arfer, mae’n hawdd gwrthdroi’r newid (cildroadwy)Fel arfer, mae’n anodd gwrthdroi’r newid (anghildroadwy)
Newid egni?Fel arfer, does dim llawer o newid egniMae egni naill ai’n cael ei ryddhau (ecsothermig) neu ei gymryd i mewn (endothermig) gan achosi newid tymheredd
Newid lliw?Fel arfer, does dim newid lliwMae hyn yn gallu achosi newid lliw oherwydd bod cynhyrchion newydd yn ffurfio
Newid cyflwr?Mae’r sylwedd fel arfer yn newid cyflwrMae cynhyrchion newydd yn gallu bod mewn cyflwr gwahanol i’r adweithyddion, ond nid bob amser
Sylweddau
Newid ffisegolDim sylweddau newydd yn ffurfio
Newid cemegolMae sylweddau newydd (sef y cynhyrchion) yn ffurfio wrth i’r cemegion gwreiddiol (sef yr adweithyddion) adweithio
Hawdd gwrthdroi?
Newid ffisegolFel arfer, mae’n hawdd gwrthdroi’r newid (cildroadwy)
Newid cemegolFel arfer, mae’n anodd gwrthdroi’r newid (anghildroadwy)
Newid egni?
Newid ffisegolFel arfer, does dim llawer o newid egni
Newid cemegolMae egni naill ai’n cael ei ryddhau (ecsothermig) neu ei gymryd i mewn (endothermig) gan achosi newid tymheredd
Newid lliw?
Newid ffisegolFel arfer, does dim newid lliw
Newid cemegolMae hyn yn gallu achosi newid lliw oherwydd bod cynhyrchion newydd yn ffurfio
Newid cyflwr?
Newid ffisegolMae’r sylwedd fel arfer yn newid cyflwr
Newid cemegolMae cynhyrchion newydd yn gallu bod mewn cyflwr gwahanol i’r adweithyddion, ond nid bob amser

Newid mewn priodweddau

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Pen ac ysgwyddau y Cerflun Rhyddid gyda llychwiniad gwyrdd i’w weld ar yr arwyneb copr, Newid lliw Pan fydd copr yn adweithio gyda nwyon arbennig yn yr aer, bydd copr disglair yn newid i liw gwyrdd

Newid egni

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Matsien yn llosgi, Cynhesu neu oeri Yn ystod newid cemegol, mae egni thermol naill ai’n cael ei amsugno neu’n cael ei allyrru

Dydy byth yn cael ei golli na’i ennill mewn adweithiau cemegol. Rydyn ni’n dweud bod cadwraeth màs yn digwydd bob amser. Mewn geiriau eraill, mae cyfanswm màs y ar ddiwedd yr adwaith yn hafal i gyfanswm màs yr ar y dechrau. Mae hyn oherwydd nad oes dim yn cael eu creu na’u dinistrio yn ystod adweithiau cemegol.