Cromatograffaeth papur
Gallwn ni ddefnyddio cromatograffaeth i wahanu cymysgeddau o cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. lliw. Mae cymysgeddau sy’n addas i’w gwahanu â chromatograffaeth yn cynnwys inciau, llifynnau a chyfryngau lliwio mewn bwyd.
Rydyn ni’n gwneud cromatograffaeth syml ar bapur. Rydyn ni’n rhoi smotyn o’r cymysgedd ar linell bensil yn agos at waelod darn o bapur cromatograffaeth - rhaid i’r llinell fod mewn pensil oherwydd mae pensil yn anhydawdd mewn dŵr ac felly fydd y llinell ddim yn symud wrth i’r gromatograffaeth ddigwydd. Yna, rydyn ni’n rhoi’r papur ar i fyny mewn hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant. addas, fel dŵr.
Wrth i’r hydoddydd fwydo i fyny’r papur, mae’n cludo’r cymysgeddau gydag ef. Bydd gwahanol gydrannau o’r cymysgedd yn symud ar wahanol gyfraddau. Mae hyn yn gwahanu’r cymysgedd.
Image caption, 1. Rhoi smotiau o inc neu lifyn planhigyn ar linell bensil
Image caption, 2. Gostwng y papur i mewn i’r hydoddydd, a rhywfaint o’r llifyn yn lledaenu i fyny’r papur
Image caption, 3. Mae’r papur wedi amsugno’r hydoddydd, ac mae’r llifyn wedi lledaenu’n bellach i fyny’r papur
1 of 3
Gwerthoedd Rf
Gallwn ni adnabod gwahanol cromatogramYr hyn sy’n cael ei gynhyrchu wrth wahanu cymysgeddau drwy gromatograffaeth. a chydrannau’r cymysgeddau wedi’u gwahanu drwy gyfrifo’r ffactor arafuEnw arall ar hwn yw’r ‘ffactor dargadw’ a’i symbol yw Rf. Mewn cromatograffaeth, y pellter mae sylwedd yn ei symud wedi’i rannu â’r pellter mae’r hydoddydd yn ei symud. (Rf). Rydyn ni’n defnyddio’r hafaliad canlynol i gyfrifo gwerth Rf:
Mae’r gwerth Rf yn mesur pa mor hydawdd yw sylwedd penodol mewn hydoddydd penodol. Y pellaf mae’r sylwedd yn symud, y mwyaf yw gwerth Rf y sylwedd hwnnw, ac felly y mwyaf hydawdd ydyw yn yr hydoddydd rwyt ti’n ei ddefnyddio.
Mae gwerth Rf cyfansoddyn penodol yr un fath bob amser cyn belled â bod y gromatograffaeth wedi’i gwneud yn yr un ffordd. Mae hyn yn galluogi diwydiannau i ddefnyddio cromatograffaeth i adnabod cyfansoddion mewn cymysgeddau.
Gallwn ni hefyd ddefnyddio cromatograffaeth pan mae’r gwahanol sylweddau yn y cymysgedd yn ddi-liw. Gallwn ni ddefnyddio cyfrwng lleoliSylwedd rydyn ni’n ei ddefnyddio i ganfod sylwedd arall drwy ei wneud yn weladwy. ar y cromatogram, sy’n adweithio â’r cemegion anweladwy fel ein bod ni’n gallu eu gweld nhw.