Cydwybod
Mae rhai Cristnogion yn credu mai llais Duw yw'r cydwybodYmdeimlad (neu 'lais') mewnol sy'n cyfleu beth sy'n gywir neu'n anghywir ar gyfer ymddygiad person.. Mae Duw yn siarad ag unigolion ac yn eu harwain nhw i wneud y peth iawn mewn sefyllfa benodol.
Gallwn ni ddisgrifio cydwybod fel syniad moesol o dda a drwg. Rhaid i gydwybod fod yn ddysgedig, oherwydd mae'n bosibl byddai cydwybod di-ddysg yn gallu gwneud penderfyniad anghywir. Mae gweddi, ysgrythur a phrofiad yn gallu addysgu cydwybod unigolyn. Yn wir, mae'r ysgrythur yn dweud bod cydwybod gan bobl sydd ddim yn dilyn ffydd hyd yn oed.
Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain. Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.
Rheswm
Mae rhai Cristnogion yn credu bod y gallu dynol i wneud synnwyr o sefyllfaoedd wedi'i roi gan Dduw, a bod Duw yn ei ddatguddio ei hun i Gristnogion drwy eu synnwyr nhw o rheswmY gallu i feddwl, deall a dod i gasgliad synhwyrol..
Beth sy'n cael ei ddysgu am Dduw yn y datganiadau hyn?
Mae Cristnogion yn gallu dysgu llawer o bethau o'r mathau hyn o ddatganiadau:
- mae Duw yn dysgu pobl drwy ei air
- mae Duw yn gofalu am bobl (cynllun y byd)
- mae Duw yn cyfathrebu gyda phobl fel unigolion
- mae Duw yn deall beth yw hi i fod yn ddynol
Problemau i gredinwyr o ganlyniad i safbwyntiau gwahanol am Dduw
Mae safbwyntiau gwahanol o’r Beibl yn achosi problemau i rai credinwyr. Efallai na fyddan nhw'n deall pethau sy'n edrych fel gwrth-ddweud amlwg, neu ddysgeidiaethau sydd ddim i'w gweld yn ategu gwerthoedd Cristnogol, er enghraifft caethwasiaeth. Mae LefiticusY trydydd llyfr yn y Beibl Hebraeg/Iddewig. Mae'n cynnwys cyfreithiau Duw ar gyfer yr hen Israeliaid. yn dweud:
Mae cysyniad y cydwybod a rheswm hefyd yn gallu achosi problemau i Gristnogion. Efallai na fyddan nhw'n siŵr sut i ddehongli llais Duw. Efallai y byddan nhw hefyd yn amau a yw eu synnwyr rheswm wedi'i roi gan Dduw neu'n rhywbeth mae bodau dynol wedi'i gael neu ei ddatblygu. Efallai y bydd rhai Cristnogion yn cwestiynu natur Duw pan fydd credinwyr yn deall Duw mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cysyniad yr isymwybod a rheswm hefyd yn gallu achosi problemau i Gristnogion. Weithiau dydyn nhw ddim yn sicr sut i ddehongli llais Duw. Hefyd, efallai bydden nhw'n amau os yw eu rheswm wedi cael ei roi gan Dduw, neu ai rhywbeth mae bodau dynol wedi ei gaffael a'i ddatblygu ydyw. Bydd rhai Cristnogion o bosibl yn cwestiynu natur Duw pan fydd credinwyr yn deall Duw mewn ffyrdd gwahanol.