Sut mae gwahanol draddodiadau Cristnogol yn ystyried y Beibl?
Mae Cristnogion yn gweld y BeiblLlyfr sanctaidd y Cristnogion wedi'i rannu'n ddwy adran: yr Hen Destament a'r Testament Newydd. fel eu testun sanctaidd. Maen nhw’n dilyn y rheolau sydd ynddo ar gyfer byw bywyd, ac yn gallu troi at ddysgeidiaethau Iesu i gael arweiniad moesol.
Mae gwahanol bobl yn gallu dehongli'r Beibl mewn gwahanol ffyrdd, ac mae modd dehongli pob un darn o'r Beibl mewn ffyrdd gwahanol. O ganlyniad, mae gwahanol fathau o Gristnogion, ac mae eu credoau am ddysgeidiaethau'r Beibl yn amrywio ychydig.
Yn fras, gallwn ni gategoreiddio Cristnogion yn dri phrif grŵp, gan ddibynnu ar eu dehongliad o'r Beibl:
- Mae Cristnogion llythrennol/ffwndamentalaidd, neu Gristnogion ffwndamentalaidd, yn credu mai gwir lais Duw yw geiriau'r Beibl. Er enghraifft, wrth ddarllen stori'r creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd. yn GenesisLlyfr cyntaf yr Hen Destament (y Beibl Hebraeg) sy'n disgrifio tarddiad dynoliaeth a pherthynas pobl â Duw., byddai ffwndamentalwyr yn credu bod y byd yn llythrennol wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod.
- Mae Cristnogion ceidwadol yn credu bod y Beibl wedi cael ei ysgrifennu gan fodau dynol gafodd eu hysbrydoli gan Dduw. Maen nhw'n dal i ddilyn ei ddysgeidiaethau, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn cymryd pob gair fel llais Duw. Er enghraifft, wrth ddarllen stori'r creu, efallai y byddai Cristion ceidwadol yn derbyn nad oedd un o ddiwrnodau Duw o reidrwydd yr un hyd ag un o'n diwrnodau ni, ac na chafodd y byd yn llythrennol ei greu mewn chwe diwrnod, ond bod Duw wedi creu'r byd fel sy'n cael ei amlinellu yn Genesis.
- Mae Cristnogion rhyddfrydol yn gweld y Beibl fel geiriau sydd wedi'u hysgrifennu am Dduw. Er bod y geiriau hyn yn arweiniad da i Gristnogion o ran dod i ddeall eu ffydd, weithiau byddan nhw'n dehongli darnau'n wahanol er mwyn iddyn nhw gyd-fynd â chymdeithas fodern. Er enghraifft, wrth ddarllen stori'r creu, efallai byddai Cristion rhyddfrydol yn credu mai dim ond stori yw'r disgrifiad yn Genesis i helpu Cristnogion ddeall mai Duw yw creawdwr y byd.
Question
Esbonia'r gwahaniaeth rhwng Cristnogaeth ryddfrydol a llythrennol.
Mae Cristnogion rhyddfrydol yn credu na ddylid cymryd y straeon yn y Beibl yn llythrennol. Yn lle hynny, maen nhw'n gweld y straeon mewn ffordd fwy mytholegol. Wrth edrych ar stori'r creu yn Genesis, efallai byddai rhyddfrydwyr yn dweud bod y stori yno i bwysleisio nerth Duw, neu i addysgu Cristnogion am bechod drwy stori Adda ac Efa. Byddai rhyddfrydwyr yn derbyn damcaniaethau gwyddonol fel y Glec Fawr ac esblygiad, oherwydd bydden nhw'n gallu credu mai Duw achosodd y rhain.
Mae'r termau llythrenolwyr neu ffwndamentalwyr yn cyfeirio at Gristnogion sy'n credu bod y Beibl yn cynnwys gwir air Duw a bod y geiriau hyn i gyd yn ffeithiol gywir. Byddai llythrenolwyr yn credu stori'r creu yn Genesis yn union fel mae hi wedi'i hysgrifennu. Bydden nhw'n credu bod Duw wedi creu'r byd a phopeth ynddo dros gyfnod o chwe diwrnod, ac yna wedi gorffwyso ar y seithfed diwrnod. Byddai dim lle i wahaniaethau gwyddonol yn eu credoau.