Y BeiblFfynonellau eraill o awdurdod

Llyfr sanctaidd Cristnogol yw'r Beibl. Mae'r Beibl yn cael ei ddefnyddio wrth addoli ac mewn defodau newid byd. Mae nifer o Gristnogion yn credu mai gair Duw yw'r Beibl ac mae gwahanol enwadau yn ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Ffynonellau eraill o awdurdod

Personal and religious sources of authority available to most believers when they might need guidance and help.

Pan rydyn ni angen deall rhywbeth neu ddysgu am rywbeth, neu benderfynu beth i'w wneud, mae gan y rhan fwyaf o bobl amryw o maen nhw'n gallu troi atyn nhw i gael arweiniad a chymorth. Byddai rhain yn gallu cynnwys:

  • ffrindiau
  • teulu
  • profiad personol

I bobl grefyddol, mae ffynonellau eraill o arweiniad a chymorth ar gael hefyd. Byddai rhain yn gallu cynnwys:

  • testunau sanctaidd
  • y ffydd
  • egwyddorion neu reolau crefyddol
  • arweinwyr cymunedau ffydd
  • crefyddol
  • pobl eraill yn y gymuned ffydd

Weithiau, bydd dealltwriaeth ac ysbrydoliaeth yn gallu dod o gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddau eraill, ac o ffynonellau heblaw crefydd.

Yn gyffredinol, mae rhywun yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ar ôl ystyried amrywiaeth o ffynonellau o arweiniad a chymorth, yn hytrach na defnyddio un ffynhonnell yn unig, neu'r un un ffynhonell bob tro. Mae hyn yn helpu'r unigolyn i gael y darlun mwyaf cyflawn o'r sefyllfa sy'n ei wynebu a'r dewisiadau sydd ar gael, ac felly'n ei helpu i wneud penderfyniad gwell.

Cyfraith Sifil

Weithiau, mae rhai o ddeddfau a dysgeidiaethau'r Beibl yn â deddfau a dysgeidiaethau'r wlad a'r llywodraeth. Mae'r Eglwys yn dysgu y dylai unigolyn ddilyn dysgeidiaethau'r Beibl cyn belled nad ydyn nhw'n gwrthdaro â rhai'r wlad. Mae'r rhan fwyaf o gyfraith y Deyrnas Unedig yn cyd-fynd â dysgeidiaethau'r Beibl, er enghraifft mae llofruddiaeth yn ddrwg. Mae rhai materion eraill yn gallu bod yn benderfyniadau personol, er enghraifft mae erthyliad yn gyfreithlon, ond mae’n ddewis personol. Yr unig reswm pam na fyddai hyn yn gallu bod yn wir yw os yw cyfraith y wlad yn mynd yn groes i hawliau dynol.