Y BeiblYsbrydoliaeth a datguddiad

Llyfr sanctaidd Cristnogol yw'r Beibl. Mae'r Beibl yn cael ei ddefnyddio wrth addoli ac mewn defodau newid byd. Mae nifer o Gristnogion yn credu mai gair Duw yw'r Beibl ac mae gwahanol enwadau yn ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Ysbrydoliaeth a datguddiad

Ysbrydoliaeth

Pan mae Cristnogion yn dweud bod y Beibl wedi'i ysbrydoli gan Dduw, maen nhw'n cyfeirio at y gred ei fod yn cynnwys gair Duw. Mae modd cyfieithu'r gair 'ysbrydoledig' fel 'wedi'i anadlu gan Dduw', ac felly yn wahanol i lyfrau eraill sydd wedi'u hysgrifennu gan fodau dynol, mae'r Beibl yn arbennig ac yn unigryw, gan mai gair Duw ydyw.

Datguddiad

Mae'r term datguddiad yn cyfeirio at y syniad mai'r Beibl yw un o'r ffyrdd mae Duw wedi ei ddatguddio ei hun i fodau dynol. Drwy'r Beibl rydyn ni'n adnabod Duw ac yn gwybod sut hoffai Duw i ni fyw.

Question

Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth 'Beibl'?