Arwyddocâd man addoli
Eglwys
Mae eglwys yn ganolog i'r ffydd Gristnogol, a dyna ble mae'r gymuned yn dod at ei gilydd i addoli a moli Duw.
Yr eglwys yw:
- y lle mae pob Cristion yn addoli ynddo
- lle mae'r gymuned yn dod at ei gilydd
- lle mae gwaith elusennol yn cael ei wneud
- lle i iacháu
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
I Gristnogion, mae ymgasglu fel cymuned i addoli'n beth allweddol ac yn seiliedig ar yr Efengyl yn ôl Mathew. Dysgodd Iesu y byddai ef yn bresennol pan fyddai pobl yn ymgasglu i'w addoli. Dyma un rheswm pam bod Catholigion yn credu bod Iesu wir yn bresennol yn yr Offeren.
Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.
Mae cael lle i addoli'n bwysig i Gristnogion, oherwydd mae’n rhoi cyfle i deimlo'n agosach at Dduw, i gyfarfod â Christnogion eraill â'r un credoau ac i deimlo fel rhan o gymuned o gredinwyr sy'n dod at ei gilydd yn rheolaidd i fynegi eu ffydd.