Mannau arbennigJerusalem

Enw arall ar fannau arbennig i Gristnogion yw mannau pererindod. Mae Cristnogion yn credu bod pererindod yn gallu eu helpu nhw i ddatblygu'n ysbrydol a dod â nhw'n agosach at Dduw.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Jerusalem

Mae Jerusalem yn fan pwysig i Gristnogion, yn ogystal ag Iddewon a Mwslimiaid.

Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi ymweld â Jerusalem adeg y ac wedi treulio'r wythnos cyn ei farwolaeth yno. Mae Cristnogol yn ymweld â Jerusalem, felly, i gofio digwyddiadau allweddol yn wythnos olaf Iesu, sef yr . Bydd pererinion Cristnogol yn aml yn ymweld â'r mannau canlynol:

  • Gardd Gethsemane – maen nhw'n credu mai dyma lle bu Iesu yn gweddïo cyn iddo gael ei arestio gan y Rhufeiniaid a'i ddedfrydu i farwolaeth. Mae Cristnogion yn dod yma i a gweddïo.
  • Eglwys y Beddrod Sanctaidd – maen nhw'n dweud bod yr eglwys hon wedi'i hadeiladu ar y safle lle cafodd Iesu ei groeshoelio, a'r man lle cafodd ei gladdu. Mae eraill yn credu mai Bedd yr Ardd, sydd wedi'i leoli ychydig y tu allan i furiau dinas Jerusalem, yw'r lle sy'n cynrychioli safle marwolaeth ac Iesu.
  • Via Dolorosa – llwybr arbennig mae pererinion Cristnogol yn ei ddilyn o gyrion Jerusalem i Eglwys y Beddrod Sanctaidd, yn enwedig ar ddydd Gwener y Groglith. Maen nhw'n credu mai dyma'r union lwybr y cerddodd Iesu ar ei hyd wrth gario ei groes ar y ffordd i gael ei groeshoelio.
  • Eglwys y Dyrchafael – maen nhw'n dweud bod hon ar safle'r Dyrchafael, pan gododd Iesu i'r Nefoedd 40 diwrnod ar ôl atgyfodi. Mae carreg yn yr Eglwys, a'r gred yw bod ôl ei droed arni.

Natur a phwysigrwydd

Mae'r gred bod Iesu wedi marw a chyfodi o blith y meirw'n gred bwysig iawn i Gristnogion. Mae Cristnogion yn credu bod yr hwn yn galluogi pob Cristion i gael perthynas â Duw. Enw'r gred hon yw’r Iawn.

Mae llawer o Gristnogion yn credu bod mynd ar i Jerusalem yn gallu dod â nhw'n agosach at brofiad Iesu wrth i'w farwolaeth agosáu.

Mae Cristnogion yn credu bydd hyn yn eu helpu nhw i ddatblygu'n ysbrydol a mynd yn agosach at Dduw.

More guides on this topic