Mannau arbennigYnys Enlli

Enw arall ar fannau arbennig i Gristnogion yw mannau pererindod. Mae Cristnogion yn credu bod pererindod yn gallu eu helpu nhw i ddatblygu'n ysbrydol a dod â nhw'n agosach at Dduw.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Ynys Enlli

Ynys fach anghysbell oddi ar benrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru yw Ynys Enlli. Dim ond ar y môr mae'n bosibl ei chyrraedd, a dim ond pan mae'r tywydd yn glir.

Sefydlodd Sant Cadfan fynachlog Gristnogol ar yr ynys tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, a'r gred oedd mai honno oedd y fynachlog gyntaf ym Mhrydain.

Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ynys yn fan pererindod poblogaidd, nes i Harri VIII orchymyn dinistrio'r fynachlog yn 1537. Fodd bynnag, er nad yw'r fynachlog yn bodoli erbyn hyn, mae'r ynys yn dal i fod yn ysbrydol bwysig i lawer o Gristnogion heddiw ac yn ddiweddar mae wedi dod yn lle poblogaidd i bererinion ymweld ag ef unwaith eto.

Ynys, gyda bryn ar un ochr, sy'n goleddfu at lefel y môr ar yr ochr arall.
Image caption,
Yn ôl y chwedl, mae 20,000 o seintiau wedi'u claddu ar Ynys Enlli

Question

Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth y gair 'pererindod'?

More guides on this topic