Mannau arbennigY Tir Sanctaidd

Enw arall ar fannau arbennig i Gristnogion yw mannau pererindod. Mae Cristnogion yn credu bod pererindod yn gallu eu helpu nhw i ddatblygu'n ysbrydol a dod â nhw'n agosach at Dduw.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Y Tir Sanctaidd

Mae'r Tir Sanctaidd yn cynnwys Bethlehem, Nasareth a Jerusalem, ymysg trefi a mannau eraill sydd â chysylltiad ag Iesu.

Bethlehem

Dathlu'r Nadolig ym Methlehem
Image caption,
Dathlu'r Nadolig ym Methlehem

Mae Bethlehem tua phum milltir a hanner i'r gorllewin o Jerusalem. Dyma lle mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei eni. Y safle pwysicaf ym Methlehem yw Eglwys y Geni yn Sgwâr y Preseb, gafodd ei adeiladu yn y bedwaredd ganrif.

Yn Eglwys y Geni, mae man bach o'r enw Groto'r Geni. Yn y hwn, mae seren ag 14 pwynt, ac mae rhai Cristnogion yn credu bod hon yn dangos man geni Iesu Grist.

Yn agos at y man hwn, mae Capel y Preseb lle mae rhai Cristnogion yn credu bod Mair wedi gosod Iesu ar ôl iddo gael ei eni.

Fodd bynnag, i lawer o Gristnogion mae'r safleoedd hyn yn cynrychioli mannau a digwyddiadau pwysig ym mywyd cynnar Iesu, ond mae rhywfaint o amheuaeth ynglŷn ag ai dyma'r union fannau lle digwyddodd y digwyddiadau hyn.

Mae Cristnogol yn teithio i Fethlehem, yn enwedig adeg y Nadolig i fynychu gwasanaethau yn Eglwys y Geni. Mae rhai o'r pererinion yn cusanu'r seren sy'n cynrychioli man geni Crist i ddangos eu .

Natur a phwysigrwydd

Mae ymweld â Bethlehem yn galluogi Cristnogion i rannu eu ffydd â phobl eraill o bob rhan o'r byd. Mae llawer o wahanol Cristnogol wedi'u cynrychioli ym Methlehem, gan gynnwys eglwysi'r Gorllewin a'r Dwyrain, er enghraifft yr Eglwysi Groegaidd ac Armenaidd.

Ym Methlehem, mae Cristnogion yn gallu gweddïo a chanolbwyntio eu sylw ar enedigaeth Iesu Grist. Dyma'r ymgnawdoliad - y gred mai Iesu yw Duw wedi'i wneud yn gnawd. Mae'r profiad o fod yn y lle maen nhw'n credu bod yr ymgnawdoliad wedi digwydd yn gallu bod yn bwysig iawn i Gristnogion o safbwynt ysbrydol.

More guides on this topic