Creu'r byd
Y Beibl
Llyfr sanctaidd Cristnogion yw'r BeiblLlyfr sanctaidd y Cristnogion wedi'i rannu'n ddwy adran: yr Hen Destament a'r Testament Newydd. a dyma’r ffynhonnell awdurdodTestun neu gorff crefyddol sy'n gyfrifol am arwain pobl ynghylch sut i fyw. bwysicaf i Gristnogion, gan ei fod yn cynnwys dysgeidiaeth Duw ac IesuPerson canolog yn hanes a defosiwn Cristnogaeth. Ail berson y Drindod..
Mae pob Cristion, o bob enwadCangen o'r Eglwys Gristnogol., yn gweld y Beibl fel y man cychwyn i gael arweiniad ynglŷn â'i ffydd. Mae 66 o wahanol lyfrau ynddo mewn dwy adran, sef yr Hen Destament a'r Testament Newydd.
Yr Hen Destament
Casgliad o lyfrau gafodd eu hysgrifennu cyn bywyd Iesu yw'r Hen Destament. Mae'n cynnwys rheolau bywyd i Gristnogion, sef y Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair. yn llyfr Exodus.
Mae'r Hen Destament hefyd yn cynnwys enghreifftiau o'r canlynol:
- pobl eraill mae Cristnogion yn gallu dysgu oddi wrthyn nhw, er enghraifft JobPerson yn Llyfr Job yn y Tenakh (ac yn yr Hen Destament) sy'n wynebu dioddefaint mawr.
- gweddïau a chaneuon sy'n cael eu defnyddio wrth addoli, er enghraifft y salmau
- darnau sy'n cael eu hystyried yn proffwydoliaethDatganiad sy'n rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. o'r Meseia, fel Eseia pennod 53
Y Testament Newydd
Casgliad o lyfrau gafodd eu hysgrifennu ar ôl i Iesu farw ac atgyfodi yw'r Testament Newydd. Mae'n cynnwys y pedwar efengylDysgeidiaethau yr Iesu a'r apostolion. - Mathew, Marc, Luc ac Ioan. Yn yr efengylau mae Cristnogion yn dysgu am yr esiampl a osododd Iesu a'r dysgeidiaethau a roddodd i'w ddisgyblion a'i ddilynwyr cynnar.
Mae'r Testament Newydd hefyd yn cynnwys dysgeidiaethau Sant Paul a helpodd i lunio dysgeidiaethau'r eglwys gynnar. Paul a ysgrifennodd rai o'r llythyrau, neu'r epistolau, sydd yn y Testament Newydd, fel RhufeiniaidLlythyr gan Sant Paul yw'r Rhufeiniaid neu'r Llythyr at y Rhufeiniaid. Dyma'r chweched llyfr yn y Testament Newydd. a GalatiaidLlyfr yn y Testament Newydd, wedi'i ysgrifennu gan Sant Paul at yr Eglwys yn Galatia..
Mae rhai Cristnogion hefyd yn ystyried bod y llyfrau DeuteroganonaiddLlyfrau sydd ddim ond i'w gweld mewn rhai fersiynau o'r Hen Destament. neu'r ApocryffaCasgliad o lyfrau hynafol sydd yn yr Hen Destament Groeg, ond nid yn y Canon Hebraeg. Mae rhai Eglwysi yn cydnabod yr Apocryffa fel rhan o Ganon yr Hen Destament. yn rhan o'r Beibl. Mae'r llyfrau Dewteroganonaidd yn cael eu derbyn fel ysgrythur gan CatholigGrŵp o Gristnogion sy'n derbyn y Pab yn Rhufain fel eu harweinydd. ac Eglwysi'r Dwyrain, ond doedden nhw ddim yn y CanonMewn Cristnogaeth, llyfrau'r Beibl sy'n cael eu derbyn gan yr Eglwys. Rhestr. Hebraeg a dydy Protestaniaid ddim yn eu hystyried nhw'n ganonaidd. Mae'r llyfrau hyn fel arfer yn cael eu gosod ar ôl yr Hen Destament mewn Beibl. Maen nhw'n helpu i roi llyfrau eraill mewn cyd-destun hanesyddol ac yn cynnig golwg wahanol ar y Beibl Hebraeg. Mae enghreifftiau o lyfrau Dewteroganonaidd yn cynnwys y Llyfr Doethineb a Llyfrau'r Macabeaid.
Gair Duw
Mae Cristnogion yn credu mai Gair Duw yw'r Beibl. Mae hyn yn golygu bod awduron y Beibl wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw i ysgrifennu'r hyn roedden nhw wedi'i dystio a'r hyn gafodd ei ddatguddio iddyn nhw. Felly, rhaid i Gristnogion ddilyn dysgeidiaeth y Beibl.
Yn awr, O Israel, gwrando ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu dysgu ichwi heddiw; cadwch hwy er mwyn ichwi gael byw a mynd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi ichwi. Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi.