Symbolaeth
Mae'r Beibl yn llawn symbolaeth. Roedd yr awduron yn defnyddio symbolaeth i geisio esbonio gwirioneddau ysbrydol. Yn yr Efengylau, mae Iesu'n defnyddio symbolaeth i'w ddisgrifio ei hun lawer gwaith. Mae'n ei ddisgrifio ei hun fel, er enghraifft:
- bugail
- goleuni
- bara
- conglfaen
Mae defnyddio symbolaethDefnyddio symbolau a delweddau i ddisgrifio credoau ac athrawiaethau pwysig. fel hyn yn cyfoethogi'r testun. Mae hefyd yn caniatáu i ddynolryw gael gwell dealltwriaeth o Dduw a'i wirioneddau. Dylid defnyddio symbolaeth i helpu ddeall neges Duw a'r pethau mae'n ceisio eu cyfleu.
Mythau Beiblaidd
Mae rhai pobl yn dehongliY ffordd mae ystyr rhywbeth yn cael ei ddeall. ac yn darllen y Beibl a'r straeon sydd ynddo fel testunau mytholegol. Dydy hyn ddim yn lleihau awdurdod y Beibl o gwbl – mae'n ffordd o roi esboniad a gwirionedd i rywbeth allai fod yn anesboniadwyRhywbeth nad oes modd ei egluro. fel arall. Er enghraifft, mae modd ystyried bod stori'r creu yn Genesis yn fytholegol, oherwydd mae gwyddoniaeth wedi profi y byddai wedi bod yn amhosibl creu'r byd yn llythrennol mewn chwe diwrnod. Fodd bynnag, mae'r stori'n rhoi'r gwirionedd mai Duw yw'r prif greawdwr, ac mai ef yn unig sy'n gyfrifol am yr holl gread. Mae'r straeon yn y Beibl yn rhoi cipolwg i ni ar brofiadau crefyddol pobl o oes wahanol..