Pererindod
Mae modd disgrifio pererindod fel taith grefyddol. Mae'n gallu bod yn daith gorfforol i fan o bwysigrwydd crefyddol neu'n daith ysbrydol. Mae pobl yn mynd ar bererindod am nifer o resymau, er enghraifft:
- iacháu
- cyfarfod â phobl newydd
- dysgu am ffydd
- datblygu eu ffydd
Pan mae pobl yn mynd ar bererindod, mae'n gallu bod er mwyn iacháu'n ysbrydol, neu'n gorfforol, neu weithiau'r ddau. Mewn llefydd fel Lourdes yn ne-orllewin Ffrainc, mae llawer o adroddiadau sy'n honni bod pobl wedi cael eu hiacháu yn gorfforol. Mae iacháu ysbrydol yn rhoi cyfle i unigolion ailadeiladu eu perthynas â Duw.
Bydd rhai pobl yn mynd ar bererindod i gyfarfod â phobl newydd o'r un meddylfryd. Bydd rhai pobl hefyd yn mynd i helpu pobl sy'n methu teithio heb help. Mae Pererindod Cenedlaethol Cymru yn mynd â phobl anabl a phobl sydd angen help a chymorth i Lourdes bob blwyddyn. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr a pererinRhywun sy'n mynd ar daith sydd ag arwyddocâd crefyddol neu ysbrydol iddi. Mae'r daith yn cael ei galw'n bererindod. eraill.
Yn aml, bydd Cristnogion ar bererindod yn dysgu mwy am eu ffydd ac yn benodol am y man maen nhw'n ymweld ag ef. Mae hyn yn gallu eu helpu nhw i ddatblygu eu dealltwriaeth, sydd yn ei dro'n gallu eu helpu nhw i ddyfnhau eu ffydd.