Alcanau, alcenau a phlastigionFfyrdd o ddefnyddio polymerau

Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Part ofCemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Ffyrdd o ddefnyddio polymerau

Mae gan wahanol wahanol briodweddau, felly rydyn ni’n eu defnyddio nhw mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r tabl yn rhoi rhai enghreifftiau:

PolymerSut rydyn ni’n ei ddefnyddioPriodwedd y polymer
Poly(ethen)Bagiau plastigDwysedd isel, gwrth-ddŵr
Poly(propen)RhaffauCryf, lliwgar
Poly(tetrafflworoethen) – PTFEGorchuddio pedyll ffrioGwrthlud
Poly(cloroethen) – PVCPibellau dŵrDwysedd isel, ddim yn cyrydu
PolymerPoly(ethen)
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioBagiau plastig
Priodwedd y polymerDwysedd isel, gwrth-ddŵr
PolymerPoly(propen)
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioRhaffau
Priodwedd y polymerCryf, lliwgar
PolymerPoly(tetrafflworoethen) – PTFE
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioGorchuddio pedyll ffrio
Priodwedd y polymerGwrthlud
PolymerPoly(cloroethen) – PVC
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioPibellau dŵr
Priodwedd y polymerDwysedd isel, ddim yn cyrydu

Mae priodweddau polymerau’n dibynnu ar y cemegion sydd ynddyn nhw ac yr amodau sy’n cael eu defnyddio wrth eu gwneud nhw.

Er enghraifft, mae dau brif fath o boly(ethen) – LDPE, sef poly(ethen) dwysedd isel, a HDPE, sef poly(ethen) dwysedd uchel. Mae LDPE yn wannach na HDPE ac mae’n meddalu ar dymheredd is.

Mae polymerau modern yn ddefnyddiol iawn. Er enghraifft, gallwn ni eu defnyddio nhw ar gyfer:

  • defnyddiau pecynnu newydd
  • gorchuddion gwrth-ddŵr i ffabrigau (er enghraifft, dillad awyr agored)
  • llenwadau dannedd
  • gorchuddion briwiau
  • hydrogeliau (er enghraifft, ar gyfer lensiau cyffwrdd meddal a leinin clytiau/cewynnau tafladwy)
  • defnyddiau clyfar (er enghraifft, polymerau sy’n cofio siâp ar gyfer defnydd pecynnu lapio poeth)

Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai o fanteision defnyddio polymerau dros ddefnyddiau traddodiadol.

GwrthrychDefnydd traddodiadolPolymer rydyn ni’n ei ddefnyddioMantais
CafnauHaearnPVCDdim yn cyrydu, dwysedd isel
Bagiau siopaPapurPoly(ethen)Gwrth-ddŵr, cryf
Cwpanau yfedGwydr/tsieniPolystyrenDdim yn torri, ynysydd gwres
GwrthrychCafnau
Defnydd traddodiadolHaearn
Polymer rydyn ni’n ei ddefnyddioPVC
MantaisDdim yn cyrydu, dwysedd isel
GwrthrychBagiau siopa
Defnydd traddodiadolPapur
Polymer rydyn ni’n ei ddefnyddioPoly(ethen)
MantaisGwrth-ddŵr, cryf
GwrthrychCwpanau yfed
Defnydd traddodiadolGwydr/tsieni
Polymer rydyn ni’n ei ddefnyddioPolystyren
MantaisDdim yn torri, ynysydd gwres

Problemau amgylcheddol â pholymerau

Mae’r rhan fwyaf o bolymerau’n anadweithiol iawn ac yn anfiodiraddadwy, hynny yw, dydyn nhw ddim yn pydru oherwydd dydy microbau ddim yn gallu eu dadelfennu nhw.

Os ydyn ni’n rhoi polymerau gyda gwastraff cartref normal, maen nhw’n cael eu claddu mewn safle tirlenwi, a byddan nhw’n aros yno am gannoedd o flynyddoedd.

Dydy llosgi plastigion fel tanwydd ddim yn syniad da chwaith, gan fod hyn yn rhyddhau carbon deuocsid (sy’n cyfrannu at yr effaith tŷ gwydr) yn ogystal ag amryw o nwyon gwenwynig.

I ddatrys y broblem hon, gallwn ni ailgylchu’r rhan fwyaf o blastigion. Mae nifer o fuddion i ailgylchu plastigion.

  • Llai o blastig yn mynd i safleoedd tirlenwi, sy’n lleihau llygredd ac yn gwneud i safleoedd tirlenwi presennol bara’n hirach.
  • Angen llai o olew crai i gynhyrchu plastigion newydd. Mae hyn yn cynilo olew crai, adnodd cyfyngedig fydd yn dod i ben yn y pen draw.
  • Mae angen llai o egni i ailgylchu plastig nag i wneud plastig newydd. Mae hyn yn golygu costau is a llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr.