Alcanau, alcenau a phlastigionPolymerau adio

Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Part ofCemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Polymerau adio

Gallwn ni ddefnyddio i wneud .

mawr iawn sy’n ffurfio wrth i lawer o foleciwlau adweithiol, llai uno â’i gilydd, ben wrth ben, yw polymerau. Enw’r moleciwlau llai yw monomerau.

Yn gyffredinol:

llawer o foleciwlau monomer → moleciwl polymer

Rydyn ni’n galw’r polymerau sy’n ffurfio yn bolymerau adio.

Mae’r sioe sleidiau hon yn dangos sut mae llawer o fonomerau cloroethen yn gallu uno ben wrth ben i wneud poly(cloroethen), neu PVC:

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Fformiwla adeileddol pedwar moleciwl cloroethen.,

Gallwn ni grynhoi’r dull fel hyn:

  • torri bondiau dwbl y monomerau
  • bydd niferoedd mawr o foleciwlau monomer yn uno â’i gilydd
  • mae hyn yn ffurfio cadwyn hir o’r enw polymer

Mae alcenau’n gallu gweithredu fel monomerau am eu bod nhw’n :

  • mae ethen yn gallu polymeru i ffurfio poly(ethen), sef polythen
  • mae propen yn gallu polymeru i ffurfio poly(propen), sef polypropylen
  • mae cloroethen yn gallu polymeru i ffurfio poly(cloroethen), sef PVC
  • mae tetrafflworoethen yn gallu polymeru i ffurfio poly(tetrafflworoethen ), sef PTFE neu Teflon