Alcanau, alcenau a phlastigionUnedau ailadroddol

Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Part ofCemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Unedau ailadroddol

Mae moleciwlau yn fawr iawn o’u cymharu â’r rhan fwyaf o eraill, felly rydyn ni’n defnyddio’r syniad wrth luniadu fformiwla graffigol. Wrth luniadu un, mae angen:

  1. newid y bond dwbl yn y yn fond sengl yn yr uned ailadroddol
  2. ychwanegu bond at ddau ben yr uned ailadroddol
  3. lluniadu cromfachau o gwmpas yr uned ailadroddol fel bod y cromfachau’n mynd drwy ganol y bondiau ar y ddau ben
  4. rhoi’r llythyren n mewn isysgrif ar ôl y cromfachau (mae n yn cynrychioli nifer mawr iawn o’r uned ailadroddol)

Cofia, wrth luniadu hafaliad polymeru, dylai’r llythyren n fynd o flaen y monomer i ddangos bod nifer mawr iawn o fonomerau.

Ar ôl polymeru: Monomer ethen, uned ailadroddol polyethen, bondiau sengl rhwng yr atomau carbon. Monomer cloroethen, uned ailadroddol polycloroethen, bondiau sengl rhwng yr atomau carbon.
Figure caption,
Polymeriad adio

Mae’n gallu bod yn anodd lluniadu uned ailadroddol poly(propen). Rydyn ni fel arfer yn lluniadu propen fel hyn:

Fformiwla adeileddol propen.

Mae hi’n hawdd llunio uned ailadroddol poly(propen) os wyt ti’n ail-luniadu’r monomer fel hyn:

Hafaliad uned ailadroddol ar gyfer polymeriad adio propen.

Yna, galli di weld sut i drawsnewid hyn i roi’r uned ailadroddol.

Y polymer olaf mae angen i ti wybod amdano yw poly(tetrafflworoethen), sef PTFE neu Teflon.

Hafaliad uned ailadroddol ar gyfer polymeriad adio tetrafflworoethen.