Enwi moleciwlau
Mae enwau moleciwlau organig yn deillio o’r teulu organig symlaf: yr alcanau.
Cyfri’r atomau carbon
Bydd angen i ti ddysgu sut i enwi moleciwlau hyd at 5 atom carbon o hyd. Does dim ffordd hawdd o wneud hyn - rhaid i ti eu dysgu nhw.
| Cod | Nifer yr atomau carbon |
| meth | 1 |
| eth | 2 |
| prop | 3 |
| bwt | 4 |
| pent | 5 |
| Cod | meth |
|---|---|
| Nifer yr atomau carbon | 1 |
| Cod | eth |
|---|---|
| Nifer yr atomau carbon | 2 |
| Cod | prop |
|---|---|
| Nifer yr atomau carbon | 3 |
| Cod | bwt |
|---|---|
| Nifer yr atomau carbon | 4 |
| Cod | pent |
|---|---|
| Nifer yr atomau carbon | 5 |
Grwpiau gweithredol
- Alcanau – bondiau sengl yn unig
- enwi: methan, ethan ac ati
- Alcenau – yn cynnwys C = C
- enwi: ethen, propen ac ati
- Alcoholau – yn cynnwys – OH
- enwi: bwtanol, propanol ac ati
Enwi moleciwlau mwy cymhleth [Haen uwch – Cemeg yn unig]
Mae hi’n gymharol hawdd enwi moleciwlau llinol, ond beth sy’n digwydd os oes canghennau yn y gadwyn? Beth sy’n digwydd os yw’r grŵp OH yn bondio â’r ail atom carbon yn y gadwyn?
Mae’r rheolau canlynol yn ein galluogi ni i roi enw unigryw i unrhyw gyfansoddyn organig:
- Dewis y gadwyn hiraf o atomau carbon heb ganghennau. Efallai na fydd y gadwyn wedi’i lluniadu’n ‘syth’.
- Rhifo’r gadwyn o’r pen lle mae’r canghennu’n dechrau gyntaf – neu o’r pen lle mae’r grŵp gweithredol.
- Rhestru’r grwpiau sy’n canghennu a’r grwpiau gweithredol yn nhrefn y wyddor, gan gynnwys rhif i ddynodi pa atom carbon yn y gadwyn maen nhw’n bondio ag ef.
Enghraifft: Enwi’r alcen
- Dod o hyd i’r gadwyn hiraf sy’n cynnwys y bond dwbl: 4 atom carbon, sef bwten.
- Rhifo’r atomau carbon o’r ochr mae’r bond dwbl agosaf ati, sef yr ochr dde.
- Mae’r bond dwbl rhwng yr atom carbon cyntaf a’r ail yn y brif gadwyn, felly bwt-1-en.
- Yn olaf, mae grŵp methyl ar atom carbon rhif 2.
Enw llawn: 2-methylbwt-1-en
Os oes unrhyw grwpiau’n ailadrodd yn y moleciwl, mae angen y rhagddodiadGair neu ddarn sy’n cael ei roi cyn gair arall. Rhai enghreifftiau o ragddodiaid Cymraeg yw an-, cam- a dad-, er enghraifft anhysbys, camddefnyddio, dadelfennu. deu-(dau), tri-(tri) neu tetra-(pedwar) (er enghraifft, CH3C(CH3)2CH3 – deumethylpropan).