Alcanau, alcenau a phlastigionAlcenau

Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Part ofCemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Alcenau

Mae’r alcenau’n o sy’n cynnwys bond dwbl carbon-carbon. Mae nifer yr hydrogen mewn alcen yn ddwbl nifer yr atomau carbon, felly eu fformiwla gyffredinol yw:

CnH2n

Er enghraifft, fformiwla foleciwlaidd ethen yw C2H4, a fformiwla foleciwlaidd propen yw C3H6.

Dyma enwau ac adeileddau pedwar o alcenau:

Tabl yn cynnwys fformiwla foleciwlaidd a fformiwla adeileddol ethen, propen, bwt-1-en a bwt-2-en.

Mae gan fwten ddau isomer â chadwyn syth, oherwydd gellir rhoi'r bond dwbl mewn dau le neu ddau leoliad gwahanol:

  • bwt-1-en (bond dwbl gyda'r carbon cyntaf)
  • bwt-2-en (bond dwbl gyda'r ail garbon)

Mae alcenau’n annirlawn, sy’n golygu eu bod nhw’n cynnwys . Y bond hwn yw’r rheswm pam mae’r alcenau’n fwy adweithiol na’r .