Profi am alcenau
Mae presenoldeb y bond dwblBond cofalent sy’n ffurfio pan mae dau atom yn rhannu pedwar electron (dau bâr). C=C yn golygu bod alcenHydrocarbon annirlawn â bond dwbl rhwng yr atomau carbon. yn gallu adweithio mewn mwy o ffyrdd nag alcanHydrocarbon dirlawn. Cyfansoddyn o hydrogen a charbon yn unig, heb unrhyw fondiau C=C.. Mae hyn yn golygu y gallwn ni ddefnyddio prawf cemegol syml i ddweud y gwahaniaeth rhwng alcenau ac alcanau.
Hydoddiant bromin oren yw dŵr bromin. Mae’n troi’n ddi-liw wrth gael ei gymysgu gydag alcen. Mae alcenau’n gallu dadliwio dŵr bromin, ond dydy alcanau ddim. Mae’r sioe sleidiau’n dangos y broses hon.
1 of 3
Mae’r adwaith rhwng bromin ac alcenau’n enghraifft o fath o adwaith o’r enw adwaith adio. Mae’r bromin yn cael ei ddadliwio oherwydd bod cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. deubromo di-liw yn ffurfio. Er enghraifft:
ethen + bromin → 1,2-deubromoethan
C2H4 + Br2 → C2H4Br2
CH2=CH2 + Br-Br → CH2BrCH2Br
Adweithiau adio eraill alcenau:
- Gallwn ni ychwanegu hydrogen at fond dwbl C=C. Mae hyn yn ‘dirlenwi’ y moleciwl, a bydd yn troi alcen yn alcan. Er enghraifft: C2H4 + H2 → C2H6.
- Os ydyn ni’n ychwanegu ager (H2O) at alcen, mae’n ffurfio alcohol. Er enghraifft: C2H4 + H2O → C2H5OH.