Alcanau
Mae’r alcanau’n cyfres homologaiddTeulu o gyfansoddion organig sydd yn yr un grŵp gweithredol ac sydd â phriodweddau cemegol tebyg. o hydrocarbonCyfansoddyn sy’n cynnwys hydrogen a charbon yn unig.. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw briodweddau cemegol tebyg i’w gilydd a bod ganddyn nhw dueddiadau o ran priodweddau ffisegol. Er enghraifft, wrth i hyd y gadwyn gynyddu, mae eu berwbwynt yn cynyddu.
Mae alcanau'n rhannu’r un fformiwla gyffredinol.
CnH2n+2
Mae’r fformiwla gyffredinol yn golygu mai nifer yr atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. hydrogen mewn alcan yw dwbl nifer yr atomau carbon, adio dau. Er enghraifft, CH4 yw methan a C2H6 yw ethan.
Gallwn ni gynrychioli moleciwlCasgliad o ddau neu fwy o atomau wedi’u cysylltu â bondiau cemegol. alcanau â fformiwlâu graffigol sy’n dangos pob atom fel ei symbol (C neu H) a’r bond cofalentBond rhwng atomau sy’n ffurfio pan mae atomau’n rhannu electronau i gael plisgyn allanol llawn o electronau. rhwng yr atomau fel llinellau syth.
Dyma enwau ac adeileddau pump o alcanau:
Mae alcanau’n hydrocarbonau dirlawn. Mae hyn yn golygu mai bondiau sengl sy’n uno eu hatomau carbon â’i gilydd. Mae hyn yn eu gwneud nhw’n gymharol anadweithiol, ar wahân i’w hadwaith ag ocsigen yn yr aer – llosgi neu hylosgi yw’r adwaith hwn.
[Haen uwch yn unig]
Fel cyfresi homologaidd eraill, mae’r alcanau’n dangos isomeredd. Mae hyn yn golygu y gallwn ni drefnu’r atomau’n wahanol i wneud cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. ychydig bach yn wahanol sydd â phriodweddau gwahanol. Er engraifft, un o isomerCemegion â’r un fformiwla foleciwlaidd, ond â’r atomau wedi’u trefnu’n wahanol. bwtan yw methylpropan.