Y Stafell Ddirgel gan Marion EamesThemâu

Mae'r nofel hon yn ymdrin â themâu megis caredigrwydd, creulondeb a chasineb, colled a theulu. Mae'n adrodd hanes Rowland Ellis, Crynwyr ardal Dolgellau a'u herlidigaeth.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu

Taith Rowland Ellis tuag at y goleuni

Mae Rowland yn gweld y daith o ddod yn Grynwr yn un anodd, ond mae’n gwybod mai hon ydy’r daith gywir.

Caredigrwydd

Mae llawer o garedigrwydd yn cael ei ddangos gan nifer o’r cymeriadau, yn wrthbwynt i’r creulondeb sydd yn erbyn y Crynwyr.

Creulondeb a chasineb

Yn ogystal â chreulondeb at y Crynwyr, mae yma enghreifftiau eraill, ee boddi Betsan Prys.

Colled

Colli eiddo, colli rhyddid, colli cariad ac yn bennaf oll colli bywyd.

Teulu

Pwysigrwydd teulu, ee teulu Brynmawr, teulu Sinai Roberts. Gwrthbwynt i hyn ydy teulu Hywel a Lowri Vaughan.

Iaith ac arddull

Iaith naratif

Iaith lenyddol ydy iaith naratif y nofel, ee Byr yw hoedl yr haul yn Nyffryn Mawddach, ond pan ddaw, mae’n gweddnewid pobman.

Iaith cymeriadau

Mae gan bob cymeriad ei ffordd arbennig o siarad. Tueddu i edrych i lawr ar bobl y mae Hywel Vaughan: Trueni fod y werin yn ogleuo gymaint... Nid ydy’n siarad mewn tafodiaith, ac mae hynny’n awgrymu ei statws uchel yn y gymdeithas.

Mae Rowland Ellis yn defnyddio mwy o dafodiaith, yn arbennig gyda Meg pan fo’n siarad yn gariadus, Ceisia ddeall, y fech...

Mae rhywbeth annwyl hefyd yn y ffordd y mae Ellis Puw yn siarad, Sinai, ’does gen ti ddim math o dân. Tyrd imi gynneu un i ti.

Huw Morris ydy’r cymeriad sy’n siarad fwyaf amrwd yn y nofel. Mae’n barod ei dafod yn erbyn y Crynwyr: Wyst ti – y Crynwyr ’na... y Rab-siacas.

Nodweddion

Trosiad

y talcen o farmor... Mae’r awdur yma’n disgrifio Meg fel y mae Rowland yn ei gweld. Er bod Meg yn agos ato’n gorfforol, mae e’n teimlo fod yna bellter rhyngddynt. Mae’r trosiad yn awgrymu oerni a chaledwch.

Cyffelybiaeth

Fe’u gwelodd fel sêr wedi syrthio o’r nefoedd. Mae Rowland yma’n sôn am y canhwyllau yn ffenestri’r tai. Bron nad oes rhywbeth ysbrydol yn perthyn i’r gyffelybiaeth hon. Gwelwn yma fod yr awdur yn awgrymu bod Rowland Ellis yn un oedd â dychymyg byw ac yn meddwl llawer am yr hyn a welai o’i gwmpas.

Cymhariaeth

Pan mae Ellis Puw yn mynd i weld Sinai Roberts i gydymdeimlo â hi a’r teulu oherwydd marwolaeth ei gŵr, mae Steffan yn gorwedd yn y siamber ar wastad ei gefn, ei gorff bach mor denau ac eiddil â dryw yn y glaw. Cawn ddarlun o wendid y bachgen bach yn y gymhariaeth hon a darlun sy’n dangos ei fod yn dibynnu ar eraill i edrych ar ei ôl. Cawn hefyd ddarlun o ba mor fach ydoedd.

Eironi

Pan mae Lisa yn symud i Frynmawr i fod yn forwyn, mae’n sylwi ar y gwas ifanc arall, Ellis Puw. Dydy ei olwg ddim yn apelio ryw lawer ati. Fyddai’r un hogan yn syrthio mewn cariad ag o – gyda’i wallt cringoch syth, a’i sgwyddau crwn, a’r brychni ar ei drwyn. Yn nes ymlaen rydyn ni'n dod i wybod mai ei chwaer hi ei hun fyddai’n dod yn gariad i Ellis Puw yn y pen draw.

Awgrym

Cawn awgrym yn gynnar iawn yn y nofel fod gan Ellis deimladau tuag at Dorcas, er nad ydy Ellis ei hun yn sylweddoli hynny ar y pryd! Pan mae’n clywed mai Lisa sydd yn dod i Frynmawr i weini yn lle ei chwaer, Dorcas, aeth gwefr o siomiant dros Ellis Puw, er na wyddai’n iawn pam.