Y cymeriadau: Marged Owen, Huw Morris a Lisa Roberts
Marged Owen
Y tro cyntaf i Rowland sylwi arni’n iawn yn y nofel ydy pan mae’n golchi’r gwaed oddi ar wyneb Robert Owen. Sylwodd Rowland ynghanol y berw gwyllt ar ei thawelwch a’i threfnusrwydd.
Mae Marged yn berson gwahanol i Meg. Mae hi yno hefyd yn nes ymlaen pan mae Siân Morris yn rhedeg yn noethlymun, a Rowland Ellis yn ei hachub. Nid oedd neb wedi sylwi ar Marged Owen, Dyffrydan yn dod i mewn gydag ystên o ddŵr.
Cymeriad yn gwneud ei gwaith yn dawel a diffwdan ydy hi.
Wedi marwolaeth Meg, mae Marged Owen yn gefn i Rowland Ellis. Mae perthynas dda ganddi gyda Siân ac Ann: Hi oedd yr unig un a allai drin y plant. Mae ganddi wên oedd yn dechrau yn y llygaid cyn cyrraedd y gwefusau.
Mae’n gymeriad sy’n adnabod pobl yn dda. Mae’n gallu synhwyro bod Rowland Ellis yn dechrau cytuno â’r syniad o symud, bron cyn i Rowland ei hun sylweddoli hynny. Mae o’n meddalu tuag atynt, meddai llais y tu mewn i Farged.
Arwydd o bwysigrwydd y cymeriad erbyn y diwedd ydy bod yr awdur wedi rhoi’r gair olaf iddi: Mae rhin ein bro ni ar fwrdd y llong yna. Y golled... O! Y golled ... o.
Huw Morris
Mae Huw Morris yn wrthbwynt i Ellis Puw fel gwas ym Mrynmawr. Mae’n was da, ond yn un byrbwyll ei dafod. Mae’n gymeriad hunanol, ac o hyd yn ceisio ffordd i wneud ei fywyd ei hun yn well.
Mae’n un sy’n mwynhau tynnu coes, ond nid ydy’n gwybod pryd i dynnu’r llinell rhwng tynnu coes a bod yn greulon. Bob tro yr agorai ei geg roedd ei eiriau fel neidr yn barod i daro.
Dim ond yntau, Huw Morris, oedd â’r llygaid i weld a’r clustiau i glywed.
Mae’n gwybod yn iawn pryd i siarad a phryd i fod yn dawel: Weithiau byddai hwyl i’w gael o floeddio’n sydyn nes bod y creadur o’i flaen bron â neidio allan o’i groen. Dro arall fe dalai iddo wylio’n ddyfal heb gael ei weld...
Dyma’n union beth y mae’n ei wneud wrth iddo sylwi ar Meg yn cyfri’r arian.
Caiff ei anfon o Frynmawr am gymryd mantais o Lisa Roberts. Ond hyd yn oed wedyn, mae’n ceisio dial ar Rowland Ellis drwy roi gwybodaeth i’r awdurdodau ynghylch y Crynwyr.
Mae’n gymeriad lliwgar, sy’n dod â chyffro i’r nofel.
Lisa Roberts
Dyma un o’r cymeriadau sy’n newid fwyaf yn ystod y nofel. Yn y dechrau cawn olwg arni fel merch sy’n mwynhau pethau fel ffair a gwisgoedd lliwgar. Erbyn diwedd y nofel mae wedi aeddfedu, a hi sy’n edrych ar ôl plant Rowland Ellis, a’r fferm, tra’i fod yn y carchar.
Cawn yr argraff ei bod ychydig yn haerllug ar y dechrau. Barn Malan amdani ydy ei bod hi’n eneth fowld, ddigywilydd.
Mae crandrwydd Brynmawr yn apelio ati. Mae’n sylwi ar y cwrlidau cynnes a glân a orchuddiai’r gwely.
Pan mae Ellis yn dod â phecyn iddi oddi wrth Dorcas, ei chwaer, mae’n gweld mai dillad crand sydd ynddo ac mae’n eu gwisgo’n syth, Roedd Lisa wedi gwisgo’r ffedog a chlymu’r ruban yn ei gwallt.
Nid ydy Huw Morris yn hir cyn dangos diddordeb ynddi, ac ar y dechrau mae’n mwynhau’r sylw. Ond cyn bo hir, mae’r chwarae’n troi’n chwerw, a chawn olwg arall ar gymeriad Lisa, y Lisa ofnus ac ansicr ohoni ei hun.
Dau ddigwyddiad sy’n peri i Lisa newid ydy marwolaeth Malan a Dorcas. Mae’n teimlo euogrwydd, ond yn lle mynd yn benisel, mae’n penderfynu bod yn rhaid iddi aeddfedu: Cymenodd ei gwisg, glanhaodd y tŷ drwyddo draw, trwsiodd ddillad y plant, gofalodd am eu bwyd...
Mae penllanw’r newid yn dod pan mae hi a Tomos y gwas yn penderfynu ymfudo, ac yn cymryd y cam dewr o fod ymhlith y criw cyntaf i fynd.