Y cymeriadau: Ellis Puw a Dorcas
Ellis Puw
Bachgen ag wyneb main ac edrychiad swil
ydy’r disgrifiad ohono ar y dechrau. Yn ôl Huw Morris, mae’n sgolor
gan ei fod wedi dod â nifer o lyfrau gyda fe.
Mae’n awyddus i ddysgu darllen, ac mae Rowland Ellis yn cynnig ei helpu. Mae’n awgrymu’n gryf ei fod yn Grynwr oherwydd mae’n dyfynnu geiriau Morgan Llwyd, geiriau sy’n beryglus iawn
ym marn Rowland Ellis.
I greadur mor eiddil yr olwg, roedd ganddo fysedd cryfion ac ystwyth.
Defnyddia’r rhain i wella pobl yn gorfforol. Mae’n llwyddo i dawelu poenau Steffan. Hefyd mae’n llwyddo i leihau poenau Ifan Roberts yn y carchar.
Mae Ellis Puw yn ŵr ifanc doeth iawn, ac nid ydy yn uchel ei gloch. Doeth pob tawgar
yn ôl Jane Owen.
Mae’n meddwl am eraill bob tro. Pan mae’n clywed am farwolaeth Ifan Roberts, mae’n mynd yn syth i weld ei wraig, a’i galon yn gwaedu drosti a’i naw plentyn.
Mae Sinai Roberts yn dweud amdano, Rwyt ti fel tŵr cadarn imi.
Mae ganddo deimladau tuag at Dorcas. Pan mae’n clywed mai Lisa fyddai’n dod yn forwyn i Frynmawr yn lle Dorcas, aeth gwefr o siomiant dros Ellis Puw.
Mae’r gwahaniaeth rhyngddo â Huw Morris yn fawr, ac mae Dorcas yn dweud amdano, Ellis a oedd mor syml, mor ddifeddwl drwg, mor lân, mor dyner.
Mae aeddfedrwydd yn rhan bwysig o gymeriad Ellis Puw. Mae hyn yn dod yn amlwg wedi marwolaeth Dorcas. Mae’n cadw’i deimladau iddo’i hun: Ac eto roedd yna ryw lonyddwch newydd, dyfnach yn perthyn iddo, ac am y tro cyntaf erioed, teimlai’r meistr fod y gwas yn hŷn nag ef.
Gweithred anhunanol gan Ellis Puw ydy cynnig priodi Sinai Roberts. Mae’n gwneud hyn gan mai dyma’r ffordd fwyaf ymarferol o helpu’r teulu sy’n golygu gymaint iddo.
Dorcas
Cariad Ellis Puw a merch hynaf Ifan a Sinai Roberts. Hi ydy’r un sy’n cadw trefn ar ei theulu yn y Brithdir, ac yn arbennig yn edrych ar ôl ei brawd, Steffan. Pymtheg oed oedd Dorcas, ond edrychai’n ddeg ar hugain heno.
Enghraifft o’i charedigrwydd oedd ei bod wedi rhoi’r pecyn dillad a rhubanau i’w chwaer.
Yn ystod y nofel, mae perthynas rhyngddi hi ac Ellis Puw yn datblygu ac mae hi’n cytuno i’w briodi. Mae gwahaniaeth mawr rhyngddi hi a’i chwaer, Lisa. Mae Lisa’n sylwi ar hyn wrth i’r ddwy sgwrsio: Mi rydw i’n hen sguthan weithiau, ac rwyt ti mor dda. Rydan ni wedi ein gwneud yn wahanol iawn i’n gilydd.
Mae Dorcas yn gyndyn i wisgo ffrog Lisa wedi iddi gerdded drwy’r glaw, ac mae’r cwnstabliaid yn camgymryd hyn i fod yn arwydd ei bod hi’n ferch fyddai’n rhoi amser da iddyn nhw.
Mae yna ddewrder arbennig yn perthyn iddi. Mae hi’n barod i gael ei charcharu dros ei chred, ac yn barod i gefnogi Ellis Puw. Roedd hi’n barod yn awr i wynebu unrhyw beth.
Mae’n cael ei chamgymryd am wrach, ac mae’n cael ei boddi gan adael Ellis Puw ar ei ben ei hun.