Y Stafell Ddirgel gan Marion EamesY cymeriadau: Rowland Ellis a Meg Ellis

Mae'r nofel hon yn ymdrin â themâu megis caredigrwydd, creulondeb a chasineb, colled a theulu. Mae'n adrodd hanes Rowland Ellis, Crynwyr ardal Dolgellau a'u herlidigaeth.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Rowland Ellis a Meg Ellis

Rowland Ellis

Cymeriad hardd, urddasol. Yn ôl Meg, Roedd o gyn hardded â neb yn yr ardal gyda’i wallt du a’i lygad treiddgar.

Mae’n sensitif ac anhunanol, dyn â golwg trwblus yn ei lygaid.

Awgrym cynnar yn y nofel ei fod yn dechrau troi’n Grynwr ydy ei fod wedi mynd â bwyd i wraig y Cwacer.

Penderfyna fynd i un o gyfarfodydd y Crynwyr, ond ni wyddai Rowland yn iawn paham y dewisodd fynd i Ddolserau y noson honno. Yn sydyn teimlodd fod y gwirionedd ganddo.

Mae Rowland yn teimlo’n euog oherwydd ei fod e a’i wraig, Meg, yn pellhau. Arnaf fi mae’r bai am hyn, yn gadael i’r dieithrwch yma dyfu rhyngom.

Mae ymlyniad Rowland Ellis at y Crynwyr yn dod yn fwy cyhoeddus wrth iddo achub Siân Morris rhag y dyrfa. O hyn allan byddai enw gŵr Brynmawr yn gysylltiedig am byth â’r Crynwyr.

Mae’n synhwyro bod ganddo berthynas arbennig â’i gyfnither, Marged Owen, Dyffrydan. Bob tro y siaradai â Marged fe’i cafodd ei hun yn dweud pethau yn onest ac yn agored.

Dau benderfyniad mawr sydd gan Rowland Ellis i’w gwneud yn ystod y nofel, sef a ydy’n mynd i droi’n Grynwr, ac a ydy am ymfudo i’r Amerig. Mae’n brwydro yn erbyn y ddau benderfyniad, ond yn ildio yn y pen draw. Ni allai ei weld ei hun yn unman ond ym Mrynmawr.

Meg Ellis

Cawn yr argraff o’r dechrau mai un sy’n hoffi pethau materol bywyd ydy Meg. Roedd hi mor hoff o ddawnsio, dawnsio a chanu’r delyn. Mae hi’n disgwyl plentyn, ac edrychai ar ei chorff gyda diflastod. Arwydd ydy hyn o’i hunanoldeb.

Edrychai ymlaen at gael y plentyn er mwyn gallu gwisgo gŵn melfed glas wedi ei frodio â glas lliw hufen. Mae yma elfen o genfigen a chystadleuaeth yn Meg wrth feddwl am ei gwisg: Gallai fynd i’r Hengwrt yn hwnnw wedyn ac edrych cystal bob blewyn â Lowri Vaughan a gwraig Corsygedol.

Mae hi wedi edrych ymlaen gymaint at ddathliadau’r plygain yn yr Hengwrt: Rhy ifanc a rhy brydferth i’w chau ei hun yn y mynyddoedd.

Mae’n teimlo’i bod hi o statws uchel yn y gymdeithas, Fe’i ganwyd hi i fod yn foneddiges.

Gwelwn ei chreulondeb wrth iddi fethu â theimlo cydymdeimlad gyda Sinai Roberts am farwolaeth ei gŵr. Mae’n edliw i Rowland fynd yno at wraig y Cwacer i gydymdeimlo. Hyd yn oed yn ei thymer roedd Meg yn brydferth, ydy barn Rowland amdani wrth iddi wylltio ato.

Mae’n ceisio cael erthyliad ac mae hyn yn dangos ei hunanoldeb yn glir. Ond nid dyma’r unig beth y mae’n ei gadw rhag ei gŵr. Hunanoldeb mwy materol ydy casglu’r arian fesul tipyn er mwyn gwneud cynlluniau i ffoi. Mae’r erthyliad yn methu, a bu farw ar enedigaeth ei hail ferch.