Tuedd mewn cyfweliad
Mae tuedd mewn cyfweliad Sefyllfa lle mae’r cyfwelydd yn dylanwadu ar ymatebion cyfranogwyr drwy ddefnyddio mathau penodol o gwestiynau neu drwy ddweud rhywbeth mewn ffordd benodol. yn digwydd pan fydd canlyniadau’r ymchwil wedi cael eu heffeithio gan y cyfwelydd ei hun.
Mae cyfwelydd yn gallu dylanwadu ar y cyfwelai mewn gwahanol ffyrdd, a hynny weithiau heb sylweddoli, ee
- gwgu wrth wrando ar ymateb penodol, sy’n gwneud i’r cyfwelai deimlo’n ddigon anghyfforddus i roi’r gorau i beth mae’n ei ddweud
- gofyn cwestiynau arweiniol, sef cwestiynau sy’n annog ateb penodol, ee “Rwy’n gwybod bod pob person deallus yn meddwl bod gwisg ysgol yn syniad gwael, ond beth yw dy farn di?"
- defnyddio goslef arbennig, neu bwysleisio geiriau penodol, sy'n gwneud i bobl ateb mewn ffordd benodol, ee “Pa mor drist neu hapus wyt ti’n teimlo am hyn?”
- defnyddio iaith corff wahanol ar gyfer pob cyfweliad – bydd iaith corff agored, gyfeillgar yn gwneud i bobl siarad yn fwy agored na iaith corff anghyfeillgar
Question
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod chwe mynegiant wyneb gwahanol mae pobl o bob rhan o’r byd yn eu hadnabod. Wyt ti’n gallu eu hadnabod a rhoi enw iddyn nhw?