Cam pump - trefn
Yn gyffredinol, dylai’r cwestiynau ar ddechrau holiadur fod yn rhai hawdd i’w hateb. Os bydd ymatebwyr yn meddwl bod y cwestiwn cyntaf yn anodd i’w ddeall, yn aneglur neu’n gwneud iddynt deimlo’n annifyr, efallai na fyddant eisiau mynd yn eu blaenau. Dylai cwestiynau agoriadol hawdd gynyddu pa mor debygol byddan nhw'n cwblhau’r holiadur cyfan.
Bydd angen gwneud yn siŵr bod y cwestiynau’n llifo’n dda. Mae hyn yn golygu gosod y cwestiynau mewn trefn sy’n gwneud synnwyr. Mae ymatebwyr yn gallu drysu os yw'r cwestiynau yn neidio o un pwnc i’r llall, neu os oes rhaid mynd yn ôl at bwnc sydd wedi cael ei grybwyll yn barod.
Enghraifft
Os yw holiadur wedi cael ei gynllunio er mwyn ymchwilio i ffyrdd iach o fyw, dylai ddechrau â set o gwestiynau am fwyta'n iach, a mynd ymlaen wedyn at y set nesaf o gwestiynau am ymarfer corff. Mae'n debygol bydd ymatebwyr yn drysu braidd os oes mwy o gwestiynau am fwyd yn codi ar ôl y cwestiynau am ymarfer corff, oherwydd ni fyddai trefn yn cwestiynau yn gwneud synnwyr iddyn nhw.
Mae ymatebwyr yn hoffi holiaduron sydd â gwahanol fathau o gwestiynau, ac nad ydynt yn ailadrodd eu hunain. Gall y gwahanol fathau o gwestiynau gynnwys:
- cwestiynau agored sy’n rhoi rhyddid i ymatebwyr ateb fel maen nhw'n dymuno
- cwestiynau caeedig fel cwestiynau ie/na
- cwestiynau sydd â dewisiadau, fel cytuno’n gryf, cytuno, anghytuno neu anghytuno’n gryf
Dylai ymchwilwyr hefyd wneud yn siŵr nad yw’r holiaduron yn rhy hir. Bydd ymatebwyr yn diflasu os yw holiadur yn rhy hir ac mae’n bosibl na fyddan nhw'n cyrraedd y diwedd.
Cam chwech - peilot
Mae holiadur peilot Treialu rhywbeth er mwyn gweld a oes problemau. yn gyfle i dreialu’r holiadur. Mae hyn yn golygu gofyn i ychydig o bobl, megis ffrindiau a theulu, ateb y cwestiynau o flaen llaw.
Mae holiadur peilot yn cael ei ddefnyddio er mwyn canfod:
- a yw’r cwestiynau wedi’u geirio’n glir
- a yw'r cwestiynau yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen
- a yw pawb yn deall y cwestiynau
- a yw’r cwestiynau yn y drefn iawn
- a oes angen mwy o gwestiynau
- a yw’r ymatebwyr yn deall y cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gwblhau’r holiadur
Mae holiadur peilot yn bwysig iawn, oherwydd mae ysgrifennu cwestiynau wedi’u geirio’n dda a fydd yn glir i’r ymatebwyr yn dasg anodd. Felly, os nad yw holiadur wedi cael ei dreialu, ni fydd yr ymchwilydd yn gwybod a yw’r holiadur yn mynd i roi’r canlyniadau y mae arno eu heisiau.
Cam saith - cwblhau
Y cam olaf yw paratoi’r fersiwn derfynol, yn seiliedig ar yr adborth i’r holiadur peilot, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu neu atalnodi, ac nad oes unrhyw wallau gramadegol.