Meddwl yn feirniadol a datrys problemauCam tri - dull

Er mwyn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil mae angen casglu gwybodaeth yn llwyddiannus. Mae holiaduron a chyfweliadau yn ffyrdd poblogaidd o gasglu gwybodaeth feintiol ac ansoddol.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Cam tri - dull

Dewis y dull holiadur mwyaf priodol ar gyfer y sampl o bobl sy’n cymryd rhan.

Mae dulliau holiadur yn cynnwys:

  • cyfweliadau wyneb-yn-wyneb
  • cyfweliadau ffôn
  • holiaduron sy’n cael eu hanfon drwy’r post
  • holiaduron ar-lein

Enghraifft bywyd go iawn un

Os wyt ti’n targedu pobl sydd dros 80 oed yn dy ymchwil, efallai nad holiaduron ar-lein fydd y dull mwyaf addas i’w ddefnyddio, oherwydd mae’n bosibl na fydd pawb sydd dros 80 oed yn gyfarwydd â bod ar-lein.

Dynes hŷn yn meddwl sut i ddefnyddio gliniadur ar fwrdd coffi

Enghraifft bywyd go iawn dau

Os wyt ti’n targedu plant ifanc ar gyfer dy ymchwil, ni fyddai cyfweliadau ffôn yn addas oherwydd materion yn ymwneud â diogelwch. Yn ychwanegol at hyn, ni fyddai plant ifanc iawn yn gallu canolbwyntio’n ddigon hir i ateb cwestiynau dros y ffôn, ac ni fyddent yn ddigon hen i fynegi barn.

Plentyn yn gwenu wrth chwarae gyda ffôn symudol mewn parc

Cam pedwar - cwestiynau

Bydd pwrpas dy ymchwil, a fydd wedi’i sefydlu yng ngham cyntaf y broses o ddatblygu holiadur, yn dy helpu i benderfynu pa fath o gwestiynau i’w defnyddio:

  • cwestiynau agored
  • cwestiynau caeedig
  • cyfuniad o’r ddau

Mae nifer o wahanol ffyrdd o ffurfio cwestiwn hefyd. Bydd angen ystyried yn ofalus sut bydd yr ymatebion i’r cwestiynau yn cael eu dadansoddi. Mae’n bosibl coladu a dadansoddi cwestiynau caeedig yn llawer cyflymach. Os ydym yn defnyddio rhaglenni arolygon ar-lein fel Moodle, GoogleForms a Surveymonkey gallwn wneud hyn ar unwaith.