Mathau o gwestiynau
Y mathau gwahanol o gwestiynau sy'n gallu cael eu defnyddio mewn holiadur yw:
- cwestiwn agored Cwestiwn sy’n gofyn am ateb wedi’i ddatblygu. Nid yw’n bosibl rhoi ateb syml un gair, ee do/naddo, cywir/anghywir.
- cwestiwn caeedig Cwestiwn sydd â dim ond un math o ateb, ee oes/nac oes, cywir/anghywir neu rif, er enghraifft ‘Faint o weithiau fyddi di’n bwyta bwyd cyflym mewn mis arferol?’
- cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio
Cwestiynau agored
Mae cwestiynau agored yn tueddu i gael eu defnyddio pan fydd ymchwilwyr yn chwilio am wybodaeth ansoddol. Mae gwybodaeth ansoddol yn ceisio egluro pam a sut mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n rhoi gwybodaeth fanwl am ymddygiad dynol.
Dyma enghraifft o gwestiwn agored.
Beth yn eich barn chi yw’r prif ffactorau sy’n achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig?
Byddai’r sawl sy’n llenwi’r holiadur yn rhoi ymateb mewn blwch sy’n cael ei ddarparu, neu’n gadael i’r cyfwelydd lenwi’r blwch ar ei ran.
Er hyn, mae’n bosibl troi cwestiynau agored sy’n arwain at wybodaeth ansoddol yn gwestiynau caeedig.
Os yw'r ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth feintiol, mae’n bosibl mesur gwybodaeth feintiol a’i hysgrifennu mewn rhifau. O ganlyniad, bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau mathemategol.
Efallai bydd y cwestiwn yr un fath, ond byddai dewisiadau penodol yn cael eu hychwanegu er mwyn llywio atebion yr ymatebwr, ee
Beth yn eich barn chi yw’r prif ffactorau sy’n achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig? Ticiwch y rhai sy’n berthnasol.
Yn aml iawn mae categori ‘arall’ yn cael ei ychwanegu, oherwydd mae’n bosibl na fydd yr ymchwilydd wedi meddwl am bob ateb posibl.
Cwestiynau caeedig
Mewn cwestiynau caeedig, rhaid i’r ymatebwyr ddewis ymateb penodol, hyd yn oed os mai ‘arall’ neu ‘ddim yn gwybod’ yw’r ymateb, ee
Yn eich barn chi, ai diffyg ymarfer corff sydd wrth wraidd gordewdra yn y Deyrnas Unedig?
Bydd yr ymatebwyr yn gallu ateb ie, nage, ddim yn gwybod neu ymhelaethu ar eu barn yn y categori 'arall'.
Cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio
Weithiau nid yw ymchwilwyr eisiau cyfyngu ar nifer yr ymatebion. Efallai byddan nhw eisiau i'r ymatebwyr ddewis faint bynnag o’r ymatebion sy’n berthnasol. Mae dau enw ar y math yma o gwestiynau, sef cwestiynau aml-ateb neu gwestiynau rhestr wirio.
Question
Os wyt ti’n ymchwilio i wisg ysgol ac yn awyddus i wybod beth yw barn plant ysgol am orfod gwisgo gwisg ysgol, pa fath o gwestiynau fyddai’n gweithio orau?
Cwestiynau agored, oherwydd byddant yn gadael i’r disgyblion ysgrifennu eu barn. Nid yw cwestiynau agored yn cyfyngu ar beth mae disgyblion eisiau ei ddweud.
Question
Os wyt ti’n ymchwilio i’r syniad o drefnu trip ysgol i amgueddfa ac yn awyddus i ganfod a fyddai’r disgyblion yn dod ar y trip ai peidio, pa fath o gwestiwn fyddai’n gweithio orau?
Cwestiwn caeedig sydd ag ateb byr a syml fel byddwn/na fyddwn.