Meddwl yn feirniadol a datrys problemauCam un - gwybodaeth

Er mwyn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil mae angen casglu gwybodaeth yn llwyddiannus. Mae holiaduron a chyfweliadau yn ffyrdd poblogaidd o gasglu gwybodaeth feintiol ac ansoddol.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Cam un - gwybodaeth

Meddylia am bwrpas yr ymchwil a cheisio canfod pa wybodaeth sydd ei hangen, ee a oes angen gwybodaeth neu wybodaeth ?

Enghraifft bywyd go iawn

Os wyt ti’n ymchwilio i farn pobl ynglŷn â beth sy’n gwneud ffilm dda, bydd angen i ti gael gwybodaeth ansoddol, oherwydd ymchwil ansoddol sy’n cael gwybodaeth am farn pobl.

Rholyn ffilm ar gefndir pren

Cam dau - pwy i'w dargedu

Penderfynu pwy yn union mae’r ymchwilydd eisiau ei holi. Fel arfer ni fydd ymchwilydd yn gallu holi pob unigolyn mewn benodol, felly bydd yn dewis sampl .

Mae hyn yn golygu meddwl pa fath o bobl dylai’r ymchwilydd eu holi. Mae’n bwysig iawn, oherwydd bydd yn anodd mynd ymlaen i gamau tri a phedwar heb wybod hyn.