Hunanfyfyrio
Mae hunanfyfyrioMyfyrio arnat ti dy hun, o ran cryfderau a meysydd i’w gwella. yn rhan bwysig o’r broses ymchwil. Mae’n golygu bod yr ymchwilydd yn edrych yn ôl ar ei ymchwil, ac yn meddwl beth aeth yn dda a beth byddai wedi gallu ei wella.
Gall ymchwilwyr hefyd ystyried a wnaethant ddylanwadu ar ganfyddiadau’r ymchwil mewn unrhyw ffordd, er enghraifft drwy duedd mewn cyfweliad, a meddwl am ffyrdd o atal hynny rhag digwydd eto.
Wrth fyfyrio ar y pethau da (cryfderau) a’r pethau byddai’n bosibl eu gwella (gwendidau), bydd angen i ti ystyried dy berfformiad dy hun mewn tri phrif faes:
- cynllunio
- datrys problemau
- cwblhau prosesau
Cynllunio
Myfyria ar dy berfformiad drwy ystyried pa mor effeithiol oedd dy sgiliau cynllunio wrth i ti:
- osod nodau ac amcanion
- creu amserlenni a gosod cerrig milltir, terfynau amser a thargedau
- adnabod risgiau
- defnyddio offer cynllunio
- canfod, dewis a chasglu gwybodaeth a data rhifiadol o ffynonellau amrywiol
Datrys problemau
Myfyria ar dy berfformiad yng nghyswllt datrys problemau, drwy ystyried pa mor effeithiol oeddet ti wrth geisio:
- canfod gwybodaeth, adnoddau a deunyddiau a fyddai’n dy helpu gyda’r project
- canfod gwybodaeth, ffactorau, tebygrwydd a gwahaniaethau
- gwneud penderfyniadau, crynhoi a chyflwyno canfyddiadau
Cwblhau prosesau
Myfyria ar dy berfformiad dy hun yng nghyswllt cwblhau prosesau, drwy ystyried:
- pa mor effeithiol oeddet ti wrth ddatblygu’r sgiliau a’r technegau er mwyn cwblhau’r project
- pa mor effeithiol oeddet ti wrth reoli amser, hynny yw wnest ti gadw at y terfynau amser?
- pa mor fodlon wyt ti gyda safon gyffredinol y project
