Y Talmud
Mae’r Talmud yn cynnwys dysgeidiaethau rabinaiddYn ymwneud â rabïaid o ganrif gyntaf Oes y Cyfnod Cyffredin i'r chweched ganrif a'u dehongliad a'u hymestyniad o gyfraith feiblaidd.. Mae'r dysgeidiaethau hyn yn dehongli, ac yn rhoi mwy o wybodaeth, am ddeddfau’r Torah er mwyn ei wneud yn berthnasol i fywyd bob dydd Iddewon ym mhum canrif gyntaf yr Oes Gyffredin. Enw arall am y traddodiad rabinaidd sy’n cael ei amlinellu yn y Talmud yw’r Torah llafar. I lawer o Iddewon, mae’r Talmud yr un mor sanctaidd a rhwymol â’r Torah ei hun.
Y Torah llafar
Yn ôl y gred draddodiadol, rhoddodd Duw y Torah llafar i MosesY dyn a gafodd ei ddewis gan Dduw i achub yr Iddewon rhag caethwasiaeth a mynd â nhw i wlad yr addewid. Yn y Qur'an, negesydd a gafodd ei ddewis gan Dduw i roi datguddiad y Torah i'r Israeliaid yw Moses. ar Mynydd SinaiMynydd yn anialwch Sinai, lle ystyrir bod Moses wedi derbyn y Deg Gorchymyn.. Digwyddodd hyn yr un pryd ag y derbyniodd Moses y Torah ysgrifenedig. Cafodd ei drosglwyddo ar lafar drwy’r cenedlaethau nes iddo gael ei ysgrifennu gan rabïaid yn y Talmud.
Y Torah llafar yw’r traddodiad rabinaidd hynafol, a’r ddogfen fwyaf pwysig ohono yw’r Talmud. Mae’r Talmud yn cynnwys y MishnahYn llythrennol, "dysgeidiaeth". Hon yw'r ddogfen gyntaf Iddewiaeth rabinaidd. Mae'n debyg ei bod yn gofnod ysgrifenedig o'r traddodiad llafar o tua 200 OC. a’r GemaraEsboniad y Talmud ar y Mishnah.. Mae pob esboniad yn gysylltiedig â rhan o’r Mishnah ac mae’n cyflwyno trafodaethau rabinaidd arno.
Responsa rabinaidd
Mae rabïaid yn dal i drafod y Talmud a gweithiau rabinaiddYn ymwneud â rabïaid o ganrif gyntaf Oes y Cyfnod Cyffredin i'r chweched ganrif a'u dehongliad a'u hymestyniad o gyfraith feiblaidd. eraill er mwyn rhoi arweiniad ar faterion sy’n codi yn y gymuned Iddewig heddiw. Er enghraifft, o ganlyniad i ddarganfyddiadau mewn peirianneg enetig a therapi genynnau, byddan nhw'n debygol o drafod cwestiynau sy’n codi ynglŷn â defnyddio’r technegau hyn a’r cysyniad o sancteiddrwydd bywydY gred fod bywyd yn werthfawr neu'n sanctaidd, oherwydd bod pobl yn cael eu creu 'yn ddelwedd o Dduw'. I lawer o gredinwyr crefyddol, dim ond bywyd dynol sydd â'r statws arbennig hwn..