Y Torah
Mae’r TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud. yn destun pwysig iawn ac mae’n cyfeirio at bum llyfr cyntaf Moses (Genesis, Exodus, Lefiticus, Numeri a Deuteronomium).
Y Torah, sy’n cynnwys y Deddfau, yw rhan gyntaf y TenakhY casgliad o 24 llyfr y Beibl Iddewig. Ceir tair adran: Torah, Nevi'im a Ketuvim (TeNaKh).. Y Torah yw sail yr holl ddysgeidiaethau Iddewig ac mae’n rhoi arweiniad ar sut i fyw bywyd Iddewig da.
Sut mae gwahanol draddodiadau Iddewig yn ystyried y Torah
I Iddewon, y Torah yw’r man cychwyn bob amser pan fydd cwestiwn neu broblem yn codi. Mae’r ffordd mae’r Torah yn cael ei ystyried yn amrywio gan ddibynnu i ba draddodiad Iddewig mae rhywun yn perthyn.
Mae Iddew UniongredIddew sy'n byw yn unol â'r Torah a chyfraith rabinaidd (halakhah) ac sydd ddim ond yn derbyn newidiadau sy'n dderbyniol yn ôl y Torah. yn ystyried y Torah fel y datguddiad canolog gan Dduw a gafodd ei roi i MosesY dyn a gafodd ei ddewis gan Dduw i achub yr Iddewon rhag caethwasiaeth a mynd â nhw i wlad yr addewid. Yn y Qur'an, negesydd a gafodd ei ddewis gan Dduw i roi datguddiad y Torah i'r Israeliaid yw Moses. ar Mynydd SinaiMynydd yn anialwch Sinai, lle ystyrir bod Moses wedi derbyn y Deg Gorchymyn. yn ei ffurf derfynol. Maen nhw’n credu ei fod yr un mor berthnasol i fywyd heddiw ag yr oedd y diwrnod y cafodd ei roi i Moses.
Maen nhw’n ceisio cadw’r gorchymynCyfraith neu gyfarwyddyd gan Dduw. sy’n cael eu nodi yn y Torah, ac yn rhoi sylw i’r holl fanylion. Fyddai Iddewon Uniongred ddim yn ceisio newid y gorchmynion i’w gwneud nhw’n addas ar gyfer bywyd modern. Fydden nhw ddim yn dadlau chwaith eu bod nhw’n amherthnasol heddiw.
Mae Iddew DiwygiedigIddew sydd wedi addasu ei gyfreithiau a'i arferion wrth i fywyd modern newid. hefyd yn credu bod y Torah wedi’i seilio yn y bôn ar y datguddiad canolog gan Dduw, ond dydyn nhw ddim yn credu bod y Torah wedi cael ei roi i Moses ar Fynydd Sinai yn ei ffurf derfynol. Yn lle hynny, maen nhw’n meddwl ei fod wedi cael ei ysgrifennu gan bobl dros nifer o flynyddoedd, ar sail eu profiadau gyda Duw a bodau dynol eraill. Gan mai pobl sydd wedi llunio'r Torah a’i addasu wrth i amgylchiadau newid, mae’n bosibl bod anghysonderau ynddo, a bod rhai rhannau ohono’n gwrth-ddweud ei gilydd.