Yom Hashoah
Yn ystod Yom Hashoah mae Iddewon yn cofio trychineb yr HolocostLlofruddiaeth 6 miliwn o Iddewon a miliynau o leiafrifoedd eraill gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.. Mae’r Holocost yn cyfeirio at adeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd 6 miliwn o Iddewon eu lladd gan y Natsïaid oherwydd eu credoau. Enw arall am Yom Hashoah yw Diwrnod Coffáu’r Holocost.
Mae Yom Hashoah yn rhan o galendr Iddewon ym mhob rhan o’r byd. Maen nhw’n cymryd rhan mewn defodau i gofio’r rhai gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac i wneud yn siŵr nad oes trychineb debyg yn digwydd eto.
Mae’r defodau ar y diwrnod hwn yn cynnwys:
- tawelwch am 11:00
- cynnau cannwyll mewn cartrefi Iddewig
- ymprydio yn achlysurol
Mae’r enw Yom Hashoah yn dod o’r gair Hebraeg 'shoah', sy’n golygu 'corwynt'.