Symbolaeth a nodweddion addoli'r Pesach
Bydd y dydd hwn yn ddydd i’w gofio i chwi, ac yr ydych i’w gadw yn ŵyl i’r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau. Am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara croyw; ar y dydd cyntaf bwriwch y surdoes allan o’ch tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy’n bwyta bara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed yn cael ei ddiarddel o Israel. Ar y dydd cyntaf ac ar y seithfed, bydd cyfarfod cysegredig; ni wneir dim gwaith yn ystod y dyddiau hynny, heblaw paratoi bwyd i bawb i’w fwyta; dyna’r cyfan.
Gwaed – Dywedodd Duw wrth Moses y dylai’r Israeliaid roi gwaed oen ar ddrysau eu tai er mwyn i Dduw allu mynd heibio eu tai nhw a’u harbed rhag y plâu. Dyma darddiad yr enw Saesneg ar yr ŵyl, sef 'Passover'.
Matzah – fe wnaeth y Pharo ildio yn y diwedd, a dywedodd wrth Moses a’r Israeliaid am fynd ar unwaith. Aethan nhw ar gymaint o frys fel na chafodd eu bara amser i godi. Dyma pam mae Iddewon yn bwyta bara croywBara wedi'i wneud heb rywbeth i wneud i'r toes godi, megis burum. o’r enw matzah yn ystod y Pesach. Mewn llawer o gartrefi Iddewig, mae plant yn mwynhau chwilio am surdoesSylwedd sy'n gwneud i does godi, er enghraifft burum. sydd wedi ei adael ar ôl.
Plât y Seder – ar noson gyntaf y Pesach, mae gwasanaeth arbennig o’r enw SederPryd bwyd defodol Iddewig, sy'n cael ei gynnal y tu allan i Israel ar ddiwrnod cyntaf ac ail ddiwrnod gŵyl y Pasg. Yn Israel mae'n cael ei gynnal ar y diwrnod cyntaf yn unig. yn cael ei gynnal yn ystod pryd o fwyd i’r teulu yn y cartref. Mae plât y Seder yn cynnwys:
- asgwrn oen
- wy wedi ei rostio
- llysieuyn gwyrdd i’w drochi mewn dŵr a halen
- perlysiau chwerw wedi eu gwneud o ruddygl poeth
- charoset – past wedi’i wneud o afalau wedi eu torri’n fân, cnau Ffrengig a gwin
- letys romaine (yr ail ddogn o berlysiau chwerw)
Ar y bwrdd, mae tri matzah (matzot yw'r enw lluosog) ar ben ei gilydd. Ar ddechrau’r Seder, mae’r matzah sydd yn y canol yn cael ei dorri ac mae’r darn mwyaf yn cael ei guddio. Yn ystod y Seder, mae’r plant yn chwilio amdano. Mae’r plentyn sy’n dod o hyd iddo’n cael gwobr fach.
Gwin – mae pedwar gwydr bach o win yn cynrychioli’r pedwar mynegiant o ryddid, ac yn symbol o’r Israeliaid yn cael eu harwain o’u caethiwed. Mae’r gwin yn arwydd o lawenydd a hapusrwydd. Mae cwpan arall o win yn cael ei osod ar y bwrdd ac mae’r drws yn cael ei adael ar agor ar gyfer y proffwyd EliasProffwyd Hebreaidd.. Mae Iddewon yn credu bydd Elias yn ailymddangos i gyhoeddi dyfodiad y MeseiaMae'r gair yn golygu 'yr eneiniog'. Mae Cristnogion yn credu mai'r Meseia yw'r person gafodd ei anfon gan Dduw i achub dynoliaeth. Mae Cristnogion yn credu mai'r Iesu yw'r person hwn. ac y bydd yn gwneud hynny yn ystod y Pesach.
Clustog – gyda’r nos bydd stori’r Israeliaid yn dianc o’r Aifft yn cael ei hadrodd. Mae gan bawb sydd yn y Seder glustog i bwyso arni. Yn yr hen amser roedd pobl arfer â lledorwedd ar glustogau wrth fwyta. Pwrpas yr arferiad hwn yw atgoffa’r Iddewon eu bod yn bobl rydd erbyn hyn, ac nid yn bobl gaeth.
Exodus – mae HaggadahHanes yr Exodus o'r Aifft, sy'n cynnwys llawer o storïau a chaneuon, ac sy'n cael ei ddefnyddio fel canllaw i ddefod seder y Pasg Iddewig. y Pasg Iddewig yn adrodd stori’r Israeliaid yn gadael yr Aifft. Mae disgwyl i bawb ddychmygu ei hun yn cael ei ryddhau o’r Aifft. Mae’r noson, sy’n cynnwys straeon a chaneuon, yn gyfuniad o lawenydd a thristwch. Dydy Iddewon ddim yn anghofio eu bod wedi bod yn bobl gaeth ar un adeg, ond maen nhw hefyd yn dathlu eu rhyddid.
Question
Beth yw ystyr y term Pesach?
Mae’r term Pesach yn cyfeirio at un o wyliau mwyaf pwysig yr Iddewon. Yn ystod y cyfnod hwn mae Iddewon yn cofio Moses yn arwain yr Israeliaid o’r Aifft ac yn eu rhyddhau o’u caethiwed ar ôl i Dduw ofyn iddo wneud hynny. Drwy fynd heibio tai’r Israeliaid, oedd â gwaed oen ar eu drysau, roedd Duw yn gallu arbed yr Israeliaid rhag y degfed pla a anfonodd i gosbi’r Eifftiaid. Ystyr y gair Hebraeg Pesach yw ‘mynd heibio’. Dyma pam y mae’r ŵyl yn cael ei galw yn ‘Passover’ yn Saesneg.