Gwyliau a dathliadauPesach

Mae gwyliau’n dathlu adegau pwysig yng nghalendr pob crefydd. Mae llawer o wyliau Iddewig yn canolbwyntio ar gofio nerth achubol Duw a bod daioni’n goresgyn drygioni.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Pesach

Pesach, neu’r Pasg Iddewig, yw un o’r gwyliau Iddewig mwyaf pwysig.

Mae Iddewon yn cofio sut gwnaeth yr ddianc o’u caethiwed pan wnaeth eu harwain o’r Aifft dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Aeth Moses i weld y droeon, ond bob tro roedd Moses yn mynd ato roedd y Pharo yn gwrthod rhyddhau’r Israeliaid. Fe wnaeth Moses roi rhybudd i’r Pharo y byddai Duw yn anfon deg pla i’r Aifft os na fyddai’r Pharo yn gadael iddyn nhw fynd.

Y deg pla oedd:

  1. gwaed
  2. llyffantod
  3. llau
  4. pryfed
  5. anifeiliaid yn marw
  6. cenllysg/cesair
  7. locustiaid
  8. tywyllwch
  9. marwolaeth pob plentyn cyntaf-anedig