Ffynonellau awdurdod Iddewig
I lawer o Iddewon, testunau sanctaiddCysegredig, yn ymwneud â Duw. Yn gysylltiedig â diben crefyddol. yw’r ffynhonnell awdurdodTestun neu gorff crefyddol sy'n gyfrifol am arwain pobl ynghylch sut i fyw. mwyaf pwysig - y Torah ysgrifenedigPum llyfr Moses, rhan gyntaf y Tenakh. (Beibl) a’r Torah llafarY Torah llafar yw traddodiad rabinaidd pum canrif gyntaf Oes y Cyfnod Cyffredin. Mae i'w weld yn ei ffurf ysgrifenedig yn y Mishnah, y Midrash a'r Talmud. (traddodiad rabinaiddY dogfennau rabinaidd clasurol, yn cynnwys y Mishnah a'r Talmud, sy'n cynnwys dysgeidiaethau rabïaid pum canrif gyntaf Oes y Cyfnod Cyffredin.). Y testunau mwyaf pwysig heddiw yw’r TenakhY casgliad o 24 llyfr y Beibl Iddewig. Ceir tair adran: Torah, Nevi'im a Ketuvim (TeNaKh). a’r TalmudY fersiwn ysgrifenedig o'r gyfraith lafar Iddewig a'r sylwebaethau arni.. Mae’r gair 'Torah' yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n gallu golygu’r Tenakh cyfan, y pum llyfr cyntaf, neu’r ddysgeidiaeth Iddewig yn ei chyfanrwydd.
Y Tenakh
Mae’r Tenakh yn cynnwys 24 o lyfrau. Mae’r llyfrau hyn hefyd i’w gweld yn Hen DestamentRhan gyntaf y Beibl Cristnogol sy'n cyfateb i'r Beibl Hebraeg ond sydd wedi'i drefnu'n wahanol. y BeiblLlyfr sanctaidd y Cristnogion wedi'i rannu'n ddwy adran: yr Hen Destament a'r Testament Newydd. Cristnogol, ond mewn trefn wahanol. Mae tair rhan i’r Tenakh. Y rhan fwyaf pwysig yw’r Torah (pum llyfr Moses). Mae’r Torah yn cynnwys y Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair., ac egwyddorion neu reolau crefyddol eraill, fel y Nevi'imProffwydi. Ail ran y Tenakh. (Proffwydi) a’r KetuvimYsgrifeniadau. Trydedd ran y Tenakh. (Ysgrifeniadau). Casgliad o esboniadau o’r Tenakh gan rabbiAthro ac arweinydd crefyddol gyda'r awdurdod i wneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â chyfraith Iddewig. Rabbi yw prif swyddog crefyddol synagog, ac yn aml (ond nid bob amser) bydd yn arwain yr addoliad ac yn cynnal defodau a seremonïau. yr henfyd a’r Oesoedd Canol cynnar yw’r MidrashCasgliadau o esboniadau rabinaidd amrywiol ar y Tenakh..