Testunau sanctaiddTestunau sanctaidd: eu defnyddio mewn Iddewiaeth?

Mae pobl grefyddol yn troi at wahanol destunau ac unigolion er mwyn cael arweiniad. I lawer o Iddewon, testunau sanctaidd yw’r ffynonellau awdurdod mwyaf pwysig – y Torah Ysgrifenedig a’r Torah Llafar.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Sut mae testunau sanctaidd yn cael eu defnyddio mewn Iddewiaeth?

Mae llawer o Iddewon yn credu bod y testunau sanctaidd yn arbennig iawn, felly maen nhw’n dangos parch mawr tuag atyn nhw.

Yn y , mae’r Torah yn cael ei gadw yn yr , ac mae pob sgrôl yn cael ei haddurno â mantell ac addurniadau. Yn y synagog, mae sgrôl y Torah yn cael ei chario mewn gorymdaith fel bod pawb yn ymwybodol o bwysigrwydd y Torah ac yn gallu dangos parch at ddeddfau Duw.

Pan fydd y sgroliau wedi eu hagor does neb yn cyffwrdd y geiriau â llaw. Yn lle hynny, mae yn cael ei ddefnyddio i ddilyn y geiriau. Rhaid gwneud yn siŵr nad oes unrhyw olion yn cael eu gadael ar y geiriau ac nad ydyn nhw’n cael eu difrodi. Mae geiriau’r Torah yn cael eu hysgrifennu ar y memrwn gydag inc. Mae hyn yn broses araf iawn, am fod rhaid i’r geiriau gael eu hysgrifennu’n gywir, heb unrhyw gamgymeriadau. Os bydd rhywun yn gwneud camgymeriad wrth ysgrifennu geiriau'r Torah, yna bydd y dudalen yn cael ei gwaredu mewn ffordd barchus. Mae’r Torah wedi’i ysgrifennu yn yr iaith . Mae testunau sanctaidd yn cael eu defnyddio mewn seremonïau, dathliadau, gwyliau ac wrth addoli neu weddïo.

Question

Eglura bwysigrwydd y Torah i Iddewon.