Hunaniaeth IddewigSymbolau

Mae gan wahanol grefyddau ffyrdd gwahanol o fynegi eu hunaniaeth. Mae rhai’n gwneud hyn drwy wisgoedd, symbolau neu seremonïau.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Symbolau

Mae symbolau’n cael eu defnyddio mewn crefyddau i gyfeirio at rywbeth neu i egluro rhywbeth yn gliriach. Fel arfer mae gan symbolau ystyr dyfnach. Yn aml iawn maen nhw’n cael eu harddangos mewn addoldai neu yn y cartref, ac yn cael eu defnyddio fel ffocws wrth addoli.

Y mezuzah

Llaw yn cyffwrdd mezuzah ar bostyn drws

Mae’r mezuzah i’w weld ar fframiau drysau llawer o gartrefi Iddewig. Mae’n cael ei osod ar fymryn o ongl ar ochr dde pob ffrâm drws yn y tŷ. Yr unig ffrâm drws yn y tŷ nad yw’n cael ei osod arno yw drws yr ystafell ymolchi.

Sgrôl femrwn â gweddi’r Shema wedi cael ei hysgrifennu arni ac wedi ei chadw mewn cas neu glawr bach yw’r mezuzah. Mae gweddi’r Shema yn bwysig i Iddewon oherwydd bod y geiriau’n disgrifio Duw yn gofyn i’r Iddewon gofio ei orchmynion yn eu meddyliau a’u calonnau. Mae’r geiriau wedi cael eu hysgrifennu gan , person sydd wedi’i hyfforddi i ysgrifennu’r Torah. Rhaid i’r memrwn mae’r geiriau’n cael eu hysgrifennu arno fod yn groen anifail .

Pwrpas y mezuzah yw atgoffa Iddewon o bresenoldeb Duw bob amser. Bydd Iddewon yn aml yn cyffwrdd â’r mezuzah pan fyddan nhw’n mynd drwy’r drws. Mae’r cyfarwyddyd i wneud hyn yn dod o’r Torah.

Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth. Y mae’r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i’w hadrodd i’th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi’n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi. Yr wyt i’w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth.
Deuteronomium 6: 5-9

Magen Dafydd

Magen Dafydd, neu seren Dafydd, yw’r symbol sy’n cael ei gysylltu amlaf ag Iddewiaeth.

Mae Magen Dafydd ar siâp hecsagram ac wedi’i ffurfio o ddau driongl hafalochrog. Mae’n debyg ei fod yn symbol gweddol fodern, a dechreuodd gael ei arddangos y tu allan i yn ystod yr 17eg ganrif. Daeth yn symbol poblogaidd o Iddewiaeth a chafodd ei fabwysiadu fel arwyddlun yn 1897.

Yn ystod yr , roedd yn rhaid i Iddewon arddangos Magen Dafydd er mwyn dangos i bobl eraill eu bod yn Iddewon.

Seren Dafydd aur wedi ei gosod dros y gair cyntaf sy'n ymddangos yn Llyfr Genesis

Question

Eglura pam mae’r mezuzah yn bwysig i Iddewon.