Hunaniaeth IddewigSeremoni a symbolau Brit Milah

Mae gan wahanol grefyddau ffyrdd gwahanol o fynegi eu hunaniaeth. Mae rhai’n gwneud hyn drwy wisgoedd, symbolau neu seremonïau.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Seremoni a symbolau Brit Milah

Mae’r term ‘defodau newid byd’ yn cyfeirio at seremonïau crefyddol sy’n digwydd drwy gydol oes crediniwr. Mae’r seremonïau hyn yn nodi’r adegau pan mae’r crediniwr yn symud o un cyfnod mewn bywyd i un arall. Fel arfer maen nhw’n cynnwys:

  • genedigaeth
  • dod i oed
  • priodas
  • marwolaeth

Bydd gan wahanol grefyddau enwau a thraddodiadau ychydig yn wahanol ar gyfer y seremonïau hyn, yn seiliedig ar eu credoau a’u harferion.

Defodau genedigaeth - Brit Milah

The main rites of passage during the life of a Jewish person.

Ystyr Brit Milah yw ‘ yr '. Mae enwaediad yn gwneud y bachgen yn rhan o’r cyfamod gydag a’r gymuned Iddewig. Mae’n cynrychioli ymrwymiad corfforol i Dduw ac ymrwymiad i ufuddhau i ddeddfau Duw.

Nodweddion Brit Milah

  • Ar yr wythfed dydd ar ôl i fachgen gael ei eni, bydd ffrind neu berthynas menywaidd neu wrywaidd yn gweithredu fel negesydd, neu kvatter. Bydd y fenyw sy'n gweithredu fel kvatter yn rhoi’r babi i'r kvatter gwrywaidd, a fydd gwisgo tallith. Bydd e'n cario’r bachgen i ystafell lle mae dynion a bechgyn y teulu wedi ymgynnull. Mae’r babi yn cael ei roi ar lin y , sef y taid neu’r tad-cu fel arfer.
  • Mae’r yn adrodd bendith. Mae’r babi’n cael ei enwaedu.
  • Yna bydd y mohel yn bendithio cwpan o win ac yn cyhoeddi enw’r babi yn ac yn Saesneg. Mae diferyn o win yn cael ei roi ar dafod y babi.

Bydd merched yn cael seremoni enwi a fydd yn cael ei chynnal yn y synagog. Yn ystod y seremoni hon bydd y tad yn cyhoeddi enw’r ferch a bydd rhywun yn darllen rhan o’r .

Question

Beth yw ystyr Brit Milah?