Ymrwymiad
Bar Mitzvah a Bat Mitzvah
Ar ôl cyrraedd oed aeddfedrwydd (13 oed i fachgen a 12 oed i ferch) bydd bechgyn a merched Iddewig yn dod yn gyfrifol am fyw yn unol â’r Cyfraith IddewigRheolau ar gyfer byw sydd i'w gweld yn Exodus a Lefiticus, sef yr ail a'r trydydd llyfr yn y Torah.. Rhaid iddo ef neu hi dderbyn y gyfraith a’i rhwymedigaethau yn llawn, cymryd rhan mewn gwasanaethau yn y synagogAdeilad i Iddewon weddïo, astudio ac ymgynnull ynddo yn gyhoeddus. a bod yn esiampl i bobl eraill.
Mae’r bachgen bellach yn cael ei ystyried yn rhan o’r minyanYn y ffydd Iddewig, dyma'r cworwm o ddeg dyn sydd ei angen ar gyfer cynnal gwasanaeth. Mae rhai cymunedau blaengar yn caniatáu menywod yn rhan o'r minyan, ond dydy minyan ddim yn ofynnol bob amser. ac mae'n cael arwain ambell ran yn y gwasanaethau.
Yn ôl y gyfraith Iddewig, mae ef neu hi bellach yn gymwys i fod yn berchen ar eiddo ac i briodi.
Cyn ei ben-blwydd yn 13 oed bydd bachgen Iddewig yn mynd i wersi HebraegHen iaith yr Iddewon., yn y synagog fel arfer, ac yn dysgu sut i ddarllen y TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud. yn uchel.
Ar y SabathSeithfed diwrnod yr wythnos a dydd o orffwys i Iddewon (Shabbat yw o fachlud haul dydd Gwener tan fachlud haul dydd Sadwrn) neu ddydd Sul i Gristnogion. agosaf at ei ben-blwydd yn 13 oed, bydd y bachgen yn dod yn Bar MitzvahYn llythrennol: mab y gorchymyn. Seremoni Iddewig ar gyfer bachgen 13 mlwydd oed, sy'n nodi ei fod yn dod yn oedolyn sy'n aelod llawn o'r gymuned Iddewig.. Yn ystod y gwasanaeth ar y Sabath, bydd y bachgen yn darllen rhan o’r Torah neu ran o’r Proffwydi yn uchel. Bydd yn gwisgo’r tefillinBlychau lledr bach yn cynnwys darnau o'r Torah. Mae dynion Iddewig yn clymu'r rhain ar eu talcen a'u braich ar gyfer gweddïau boreol ar ddiwrnodau'r wythnos. am y tro cyntaf.
Bydd y rabbiAthro ac arweinydd crefyddol gyda'r awdurdod i wneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â chyfraith Iddewig. Rabbi yw prif swyddog crefyddol synagog, ac yn aml (ond nid bob amser) bydd yn arwain yr addoliad ac yn cynnal defodau a seremonïau. yn cyfeirio rhan o’i anerchiad at y bachgen, ac mae’n bosibl y bydd y bachgen yn dweud ychydig eiriau wrth aelodau eraill y gynulleidfa. Yna bydd tad y bachgen yn adrodd gweddi o ddiolch bod ei fab wedi dod i oed.
Fel arfer, bydd parti i ddathlu Bar Mitzvah ar ôl y gwasanaeth.
O fewn y gymuned Iddewiaeth Ryddfrydol bydd merch yn paratoi ar gyfer ei Bat MitzvahYn llythrennol, mae'n golygu merch y gorchymyn. Seremoni dod i oed ar gyfer merched 12 oed ymhlith Iddewon Rhyddfrydol . yn ddigon tebyg i’r ffordd y mae bachgen yn paratoi ar gyfer ei Bar Mitzvah, ond bydd yn gwneud hyn tua’r adeg mae’n cael ei phen-blwydd yn 12 oed. Ond fydd y ferch ddim yn gwisgo’r tefillin yn ystod y seremoni Bat Mitzvah.
Dydy Iddew UniongredIddew sy'n byw yn unol â'r Torah a chyfraith rabinaidd (halakhah) ac sydd ddim ond yn derbyn newidiadau sy'n dderbyniol yn ôl y Torah. ddim yn derbyn Bat Mitzvah, a dydyn nhw ddim yn caniatáu i ferched gael eu hystyried fel rhan o’r minyan nac i arwain gwasanaethau.
Bat Chayil
Ystyr Bat Chayil yw 'merch y gorchymyn' ac mae’n un o seremonïau Iddewiaeth Uniongred. Mae’n digwydd mewn synagog Uniongred ar ddyddiad sy’n agos at ben-blwydd y ferch yn 12 oed. Bydd y ferch yn rhoi anerchiad ar bwnc Iddewig, ond ddim yn ystod gwasanaeth y Sabath.
Mae Iddewon Uniongred yn credu bod gan ddynion a menywod rôl wahanol. Dydy menywod ddim yn cymryd rhan weithgar yng ngwasanaethau’r synagog, ond mae ganddyn nhw rôl bwysig iawn i’w chwarae yn y cartref.
Mae Bat Chayil yn golygu bod y ferch wedi cyrraedd yr oed pan mae’n rhaid iddi gyflawni ei rôl fel oedolyn yn y gymuned. Rhaid iddi ddilyn y deddfau Iddewig sy’n berthnasol i fenywod a dysgu sut i gadw cartref Iddewig da. Mae sut i ddilyn deddfau bwyd Iddewiaeth yn enghraifft dda o un o’r gwersi y mae’n rhaid i Iddewes Uniongred ifanc eu dysgu.