Cyfamod yr Iddewon
Beth yw cyfamod?
Mae’r gair cyfamod yn golygu cytundeb, er enghraifft contract rhwng dau berson.
Mae Iddewon yn gweld eu perthynas â Duw fel cyfamod, neu gytundeb. Maen nhw’n credu bod Duw yn gofyn iddyn nhw wneud rhai pethau, ac y bydd yn rhoi gofal arbennig iddyn nhw os byddan nhw’n gwneud hynny.
Cafodd y cyfamod cyntaf ei wneud rhwng Duw a sylfaenydd y genedl Iddewig, sef Abraham. Abraham oedd y person cyntaf i gyflwyno’r syniad o undduwiaethCredu mewn un Duw yn unig., neu’r gred mewn dim ond un Duw. Cyn hyn roedd pobl yn addoli llawer o dduwiau.
Roedd Abraham yn cael ei adnabod fel Abram i ddechrau, ond cafodd enw newydd gan Dduw, sef Abraham, sy’n golygu ‘tad llawer o genhedloedd’.
Question
Beth yw ystyr y term ‘cyfamod’?
Mae’r term cyfamod yn cyfeirio at addewid neu gytundeb sy’n cael ei wneud rhwng dau berson neu rhwng dau grŵp o bobl. Mae Iddewon yn credu bod Duw wedi gwneud cyfamod gyda Noa, Abraham a Moses.