Y cyfamod heddiw
Mae’r cyfamodau Iddewig yn dal yn rhan hanfodol o Iddewiaeth heddiw.
Bydd bechgyn Iddewig yn cymryd rhan mewn seremoni Brit MilahY seremoni enwi ar gyfer bechgyn mewn Iddewiaeth. Mae hyn yn digwydd wyth diwrnod ar ôl i'r bachgen gael ei eni. Dyma pryd mae'r bachgen yn cael ei enwaedu fel arwydd o'r cyfamod gafodd ei wneud rhwng Duw ac Abraham ar ddechrau'r ffydd Iddewig. pan fyddan nhw’n wyth diwrnod oed. Mewn seremoni brit milah mae bechgyn newydd-anedig yn cael eu enwaediad (Iddewiaeth)Y weithred o dorri i ffwrdd y croen ar flaen y penis. Mae hyn yn cael ei wneud i bob bachgen Iddewig, gan mohel cymwys, fel arfer ar yr wythfed diwrnod ar ôl i'r babi gael ei eni. Enw arall ar hyn yw Brit Milah.. Mae’n rhan o’r cyfamod olaf, pan ofynnodd Duw i Abraham dorri ei blaengroenRholyn o groen sy'n gorchuddio blaen y pidyn., a blaengroen pob bachgen Iddewig ar ei ôl. Mae hyn yn dal yn arfer cyffredin ymhlith Iddewon. Dyma’r arwydd cyntaf o’u hunaniaeth Iddewig.
Mae’r gorchmynion gafodd eu rhoi i Moses gan Dduw yn dal i gael eu dilyn gan y gymuned Iddewig heddiw. Mae’r Pasg Iddewig (Pesach) yn dal i gael ei ddathlu bob blwyddyn gan Iddewon yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Israel a rhannau eraill o’r byd.
Yn ystod y Pesach mae Iddewon yn cofio straeon:
- y deg pla gafodd eu hanfon gan Dduw i gosbi’r Eifftiaid pan wnaeth y Pharo wrthod rhyddhau’r Israeliaid o’u caethiwed
- croesi’r Môr Coch, pan wnaeth Duw agor y môr i helpu’r Israeliaid i ddianc
Seremoni enwaedu yn dangos ystyr a phwysigrwydd y Brit Milah i Iddewon (Cynnwys Saesneg)