Cyfamod Moses
Pwy yw Moses?
Mae Moses yn cael ei ystyried yn proffwydRhywun y mae pobl yn credu ei fod yn rhoi negeseuon gan Dduw. pwysig mewn Iddewiaeth. Mae Iddewon yn credu bod Moses hefyd wedi gwneud cyfamod pwysig gyda Duw. Maen nhw’n credu mai Moses yw’r unig un erioed i weld Duw wyneb yn wyneb. Cyflwynodd Moses eiriau Duw a derbyniodd wyrthiau wedi’u hanfon gan Dduw. Mae Iddewon yn credu bod Duw wedi gweithredu drwy Moses.
Rhyddhau’r Israeliaid o’u caethiwed
Mae llawer o’r straeon am Moses yn bwysig i’r Iddewon, yn enwedig y stori am Moses yn arwain yr IsraeliadDisgynnydd i'r patriarchiaid oedd yn byw yng ngwlad Canaan, sydd hefyd yn cael ei galw'n Wlad Israel. o’u caethiwed i wlad yr addewid. Mae’r stori bwysig hon yn ymwneud â chyfnod pan oedd yr Israeliaid yn byw mewn caethiwed yn yr Aifft. Galwodd Duw ar Moses i achub y bobl hyn, ond ar y dechrau roedd y PharoRheolwr yn yr hen Aifft. yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd o’r Aifft. O ganlyniad, anfonodd Duw ddeg pla i’r Eifftiaid. Yn y pen draw, gadawodd y Pharo i’r Israeliaid fynd, ond anfonodd ei fyddin ar eu hôl. Agorodd Duw y Môr Coch i’r Iddewon gael mynd trwodd a’u helpu i ddianc. Yna caeodd y môr pan oedd byddin yr Aifft yn dod drwodd. Mae’r Iddewon yn dathlu’r stori hon bob blwyddyn yn ystod gŵyl y PesachGŵyl Iddewig (Y Pasg Iddewig) sy'n cofio gwaredigaeth yr Israeliaid o gaethiwed yn yr Aifft..
Ond gofynnodd Moses i Dduw, “Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o’r Aifft?” Dywedodd yntau, “Byddaf fi gyda thi”...
Y gorchmynion
Mae Iddewon hefyd yn credu bod Moses, ar ôl iddo arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft, wedi mynd â nhw drwy’r anialwch, ac yna wedi diflannu i ben mynydd. Mae Iddewon yn credu mai dyma pryd datgelodd Duw i Moses y 613 o orchmynion y mae disgwyl i Iddewon eu dilyn. Roedden nhw’n cynnwys y Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair.. Mae llawer o Iddewon hefyd yn credu bod Moses wedi derbyn y Torah llafarY Torah llafar yw traddodiad rabinaidd pum canrif gyntaf Oes y Cyfnod Cyffredin. Mae i'w weld yn ei ffurf ysgrifenedig yn y Mishnah, y Midrash a'r Talmud., sydd wedi cael ei drosglwyddo ar lafar o un genhedlaeth i’r llall i helpu pobl i ddehongli’r Torah ysgrifenedigPum llyfr Moses, rhan gyntaf y Tenakh..