Arholiadau ac asesiadau

Part ofStudy support

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn rhannu eu cyngor ar sut i gael y gorau o dy amser wrth i ti baratoi ar gyfer dy arholiadau.

Fideo: Arholiadau

Tips y tîm ar arholiadau ac asesiadau

Angharad “Ymarfer yw'r allwedd i wella marciau – amseru cwestiynau, gwneud cyn-bapurau a chynnwys cwisiau yn dy adolygu. Bydd y technegau yma’n sicrhau dy fod wedi paratoi’n drylwyr am dy gynnig nesaf ar yr arholiad”.

Eluned “Dwi’n gweithio ar bob cyn-bapur tair gwaith. Y tro cyntaf, heb nodiadau, yr ail dro gyda nodiadau ac yna’i wirio, a’r trydydd tro heb nodiadau eto, a gobeithio bod y canlyniadau’n uwch tro yma.”

Beca “Cofia fynd â photel o ddŵr gyda ti i’r arholiad. Yfed yw un o’r pethau pwysicaf i gadw ffocws ac i leddfu blinder.”

Jack “Ar ôl agor y papur, y peth cyntaf dwi’n gwneud yw cael cipolwg ar ba fath o gwestiynau, ond hefyd sgwennu lawr yr hafaliadau neu unrhyw rifau penodol dwi angen cofio.”

Jona “Dwi’n darllen y papur trwyddo’n gyntaf, edrych am y cwestiwn gyda’r marc mwyaf, ac yna mynd nôl i wedyn ateb pob cwestiwn. Wrth gwblhau’r cwestiwn trymaf gyntaf, mae’n lleihau’r pwysau wrth ateb y cwestiynau eraill!”

Sara “Dewisa’r cwestiynau sy’n siwtio’r adolygu rwyt ti wedi’i wneud, a chynllunia dy atebion.”

Lois “Pan mae 5 munud ar ôl, dwi’n mynd dros bob dim a gwneud yn siŵr ‘mod i wedi ateb pob cwestiwn.”

Cai “Pan mae 5 munud ar ôl, dwi wastad yn tsecio fy sillafu. Mae mor hawdd colli marciau am sillafu sili.”

Jeia “Pan mae dim ond munudau sydd ar ôl o’r arholiad, dwi’n ysgrifennu brawddegau byrion ar ddiwedd fy nhraethodau, jyst i gael y wybodaeth lawr.”

Steffan “Mae’n werth ateb pob cwestiwn, hyd yn oed os nad wyt ti’n siŵr o’r ateb. Gallai’r un marc ychwanegol yna fod y gwahaniaeth rhwng pasio a methu.”

Cyngor gan Angharad

Mae athrawon yn deall yn iawn faint o bwysau sydd arnat ti yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau. Dyma gyngor defnyddiol gan Angharad Daniels, sy’n dysgu Cymraeg TGAU.

Os nad oes gen ti syniad ble i ddechrau, gofynna i dy athro am gymorth i adnabod unrhyw fannau gwan, neu brif bwyntiau adolygu’r arholiad. Byddan nhw’n medru rhoi canllawiau a strwythur i ti eu dilyn.

Mae yna lawer o dechnegau adolygu. Rho gynnig ar wahanol rai a gweld beth sy’n gweithio i ti.

  • Cardiau fflach – rho gwestiwn ar un ochr y cerdyn a’r ateb ar yr ochr arall.
  • Dysgu drwy ganu – cer ati i grynhoi dy brif bwyntiau ac yna rho diwn iddyn nhw fel dy fod yn gallu eu canu.
  • Mapiau meddwl – gwnâ nhw’n fawr, yn llachar ac yn lliwgar a sticia nhw ar dy wal - neu hyd yn oed ar y nenfwd uwchben dy wely!
  • Nodiadau gludiog – cer ati i greu nodiadau gyda lluniau o eirfa bwysig, diagramau neu bwyntiau bwled, a’u gludo yn y llefydd rwyt ti'n edrych arnyn nhw amlaf.
  • Y 25/5 – rhanna dy amser adolygu yn gyfnodau o 25 munud o waith a 5 munud o egwyl.

Mae pawb yn cael diwrnodau da a diwrnodau gwael o adolygu – cofia fod hyn yn berffaith naturiol. Os wyt ti’n teimlo nad ydy pethau’n mynd yn dda, rho’r gorau iddi am y tro. Cer allan i gael tipyn bach o awyr iach ac yna dere nôl yn ffres.

Efallai byddi di’n teimlo bod angen gadael yr adolygu am y diwrnod a’i bod hi’n well dechrau eto y diwrnod canlynol. Dydy hyn ddim yn ddiwedd y byd, ac ni fydd hyn yn golygu methiant yn dy arholiad!

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu: Sut i fod yn drefnus

Cyngor ar sut i roi trefn ar dy waith a bod yn drefnus.

Adolygu: Sut i fod yn drefnus

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.

Adolygu: Amserlenni a chynllunio

Adolygu: Sut i ddechrau arni

Cyngor ar sut i fynd ati i ddechrau adolygu.

Adolygu: Sut i ddechrau arni