Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn trafod sut aethon nhw ati i ddechrau adolygu.
Fideo: Sut i ddechrau arni
JONA: Os yw ffrind yn dechrau’n hwyr arni, bydden i’n dweud “Paid â becso, chill out, gwnawn ni hyn gyda’n gilydd.”
JAC: Os ydych chi wedi gadael hi’n rhy hwyr, peidiwch â panico, y peth gorau i’w wneud yw adolygu ar gyfer yr arholiad cyntaf, ac yna creu rhyw fath o gynllun sy’n cyd-fynd â trefn yr arholiadau wrth iddyn nhw ddod.
MABLI: Mae dechrau adolygu’n gallu bod yn anodd, ond mae’n dod i’r pwynt ble mae’r stress o osgoi’r gwaith yn fwy na’r stress o wneud y gwaith.
SARA: Os ti’n ei chael hi’n anodd dechrau, cer ati i greu rhestr chwarae (playlist) adolygu i roi dy hun yn y mood. Yna, pan ti’n barod, diffodda’r playlist a dechreua ar y gwaith.
ROB: Mae’n medru helpu i gymryd 3 neu 4 munud cyn dechrau adolygu i drio gwagio’r meddwl o bethau eraill sydd wedi bod yn mynd ymlaen. Os oes pethau eraill ar dy feddwl di, gwna restr ohonyn nhw, a rho’r rhestr yn rhywle saff tan ar ôl yr adolygu. Compartmentalise ‘dan ni’n galw hyn.
LOIS: Mae’n anodd canolbwyntio pan mae pob dim yn flêr, felly dwi’n gwneud yn siŵr bod fy nesg i’n dwt, cael y ffeiliau cywir allan, digon o bensiliau lliw, a dwi’n barod i fynd.
MARI: Dwi’n creu amserlen wythnosol. Dwi’n hoffi gwybod beth sydd o ‘mlaen i. Ac wedyn ar y dydd Sul gwna i wneud un newydd. Fel yna, dwi’n gallu gwneud yn siŵr fy mod yn canolbwyntio ar y pynciau dwi’n gweld yn fwy heriol, yn hytrach na canolbwyntio ar y pynciau dwi’n mwynhau.
ANGHARAD: Os nad oes gen ti syniad ble i ddechrau, gofynna i dy athro am gymorth i adnabod unrhyw fannau gwan, prif bwyntiau adolygu’r arholiad. Byddan nhw’n medru rhoi canllawiau a strwythur i ti eu dilyn.
JONA: Mae trefn adolygu pawb yn wahanol. Dwi, yn bersonol, yn hoffo ddechrau gyda’r pwnc trymaf, fel mathemateg neu bwnc llawn traethodau. Wrth wneud hyn, ar ddechrau’r dydd, mae popeth arall sy’n dilyn yn teimlo gymaint yn haws.
NEL: Mae’n gallu bod yn anodd iawn cadw diddordeb i fynd, felly dwi’n teimlo, yn bersonol, bod hi’n haws gwneud amrywiaeth o bynciau, felly cael rhai hawdd ac anodd ochr yn ochr, ac mae’n helpu fi i gadw’r momentwm i fynd.
CAI: Dwi’n defnyddio’r dechneg o 25 munud o waith a 5 munud o frêc. Dwi’n ei ffeindio lawer yn haws ac mae’n gweithio i fi. Dwi’n gwybod lle dwi’n sefyll o ran gwaith, a dwi’n gwybod beth dwi angen gwneud.
ANGHARAD: Os nad wyt ti’n teimlo bod pethau’n mynd yn dda heddiw, gad hi. Dere ‘nôl at bethau ‘fory.
NEL: Os oes un o fy ffrindiau i heb ddechrau arolygu eto, byswn i’n dweud wrthyn nhw i ddechrau efo’r pwnc anoddaf, a gwneud nodiadau ar brif bwyntiau’r pwnc yna.
MABLI: Dwi’n gwneud checklists ar gyfer pob pwnc, ac yn ticio pethau off pan dwi’n eu gwybod. Mae’n neis ar ddiwedd y dydd i weld yr holl tics.
MARI: Mae pob arholiad yn dysgu sgiliau newydd i chi – rheoli amser, sut i gadw’n cŵl, a faint sydd angen ei ddysgu.
NEL: I rywun sydd byth yn adolygu, neu erioed wedi adolygu o’r blaen, byswn i’n eu cynghori nhw i ddefnyddio cardiau fflach neu mapiau meddwl, oherwydd eu bod nhw’n ffordd dda iawn o grynhoi’r wybodaeth i lawr a ffordd effeithiol o adolygu.
Tips y tîm ar sut i ddechrau arni



Sara “Os wyt ti'n cael trafferth ysgogi dy hun, gwna'r dasg gyntaf yn un o'r rhai mwyaf diddorol neu bleserus”.
Dr Rob “Mae’n medru helpu i gymryd 3 neu 4 munud cyn dechrau adolygu i drio gwagio’r meddwl o bethau eraill sydd wedi bod yn mynd ymlaen. Os oes pethau eraill ar dy feddwl di, gwna restr ohonyn nhw, a rho’r rhestr yn rhywle saff tan ar ôl yr adolygu. Compartmentalise ‘dan ni’n galw hyn.”
Angharad “Paid â chymharu dy hun ag eraill. Mae pawb yn dysgu ac yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Gwna beth sy’n gweithio orau i ti.”



Cai “Os dwyt ti ddim yn siŵr beth i’w adolygu neu sut i ddechrau adolygu, gofynna wrth athro pwnc os oes modd cael sesiwn fer i fynd dros bwyntiau pwysicaf y cwrs.”
Jona “Mae trefn adolygu pawb yn wahanol. Dwi, yn bersonol, yn hoff o ddechrau gyda’r pwnc trymaf, fel mathemateg neu bwnc llawn traethodau. Wrth wneud hyn ar ddechrau’r dydd mae popeth arall sy’n dilyn yn teimlo gymaint yn haws.”
Lois “Mae’n anodd canolbwyntio pan mae pob dim yn flêr, felly dwi’n gwneud yn siŵr bod fy nesg i’n dwt, cael y ffeiliau cywir allan, digon o bensiliau lliw, a dwi’n barod i fynd.”



Jeia “Paid â meddwl bod angen gweithio drwy’r dydd! All neb ganolbwyntio am oriau diddiwedd. Rhaid cael toriad i ail-egnïo ac ail-baratoi. Mae’n bwysig cofio hefyd bod pynciau gwahanol angen trefn weithio gwahanol. Efo rhai pynciau, fel Saesneg, dwi ddim yn teimlo bod dau ddeg pump ymlaen, pum munud ffwrdd, yn ddigon – erbyn i mi ganolbwyntio a dechrau deall, mae’n amser stopio. Ond efo pwnc fel Almaeneg mae’r drefn 25/5 yn gweithio’n dda.”
Manon “Dwi’n hoffi cynllunio pethau hamddenol i gymryd fy meddwl o’r arholiadau, er enghraifft, mynd mas am bryd o fwyd neu fynd draw i dŷ ffrind - mae'n dda cael rhywbeth i edrych ymlaen ato.”
Jac “Os wyt ti wedi gadael hi’n rhy hwyr, paid â panicio, y peth gorau i’w wneud yw adolygu ar gyfer yr arholiad cyntaf, ac yna creu rhyw fath o gynllun sy’n cyd-fynd â trefn yr arholiadau wrth iddyn nhw ddod.”
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Adolygu: Sut i gadw’n cŵl
Cyngor ar sut i gadw’n cŵl wrth adolygu.

Astudio ac ymlacio
Cyngor ar sut i gael y cydbwysedd cywir rhwng astudio ac ymlacio.

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd
Cyngor ar sut i ddelio gyda phethau’n mynd o’i le yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.
