Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r arbenigwr cof, Dr Rob Hughes, yn rhannu syniadau syml gallai dy helpu di i gofio pethau’n well.
Fideo: Tips cofio
Mae ‘na lawer o ffyrdd gwahanol ar gael i dy helpu di gofio pethau.
Mae mapiau meddwl yn ffordd effeithiol o gysylltu gwybodaeth o fewn pwnc. Mae’n ddull effeithiol o weld gwybodaeth mewn arholiad. Cofia, mae pawb yn cofio pethau mewn ffyrdd gwahanol, felly paid â bod ofn trio sawl dull gwahanol tan ffeindi di beth sy’n gweithio orau i ti.
Rho brofion bach i dy hun yn aml. Mae cardiau fflach yn syml i’w creu ac yn hawdd i’w defnyddio. Rho gwestiwn ar un ochr a’r ateb ar yr ochr arall. Medri di ddefnyddio cyfeirio neu mnemonics i ddysgu pob mathau o bethau.
Er enghraifft, os wyt ti eisiau cofio trefn y planedau o gyfeiriad yr haul ar gyfer ffiseg, pam na wnei di greu brawddeg wirion i’w chofio, lle mae llythyren gyntaf pob gair yn matsio llythyren gyntaf pob planed. Mae Gen I Ddau Mosgito Iach, Saith Walrws a Neidr. Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion.
Cofia gysgu. Mae cael digon o gwsg yn beth pwysig, yn enwedig trwy’r sbel pan ti’n adolygu. Mae angen digon o gwsg er mwyn i’r ymennydd fedru cadarnhau beth rwyt ti wedi bod yn ei ddysgu.
Mae hi’n well peidio cael caneuon yn chwarae yn y cefndir pan ti’n adolygu. ‘Dan ni’n gwybod bod sain, hyd yn oed pan dydy o ddim yn uchel, yn medru effeithio ar y ffordd mae gwybodaeth newydd yn cael ei recordio yn yr ymennydd. Os yn bosib, tria adolygu yn yr un ystafell bob tro, a wedyn yn yr arholiad, rho dy hun ‘nôl yn yr un ystafell yn dy feddwl. Mae hyn yn medru helpu’r wybodaeth rwyt ti wedi bod yn adolygu i ddod ‘nôl atat ti.
Mae defnyddio lliw gwahanol i wneud nodiadau ar wahanol bynciau’n medru helpu i wahanu’r wybodaeth yn y cof, ac felly’n ei gwneud hi’n haws i ddod â’r wybodaeth ‘nôl i’r meddwl.
I ddysgu rhestr o dermau neu ffeithiau, er enghraifft, tria’u canu nhw, drwy ddefnyddio tiwn sy’n gyfarwydd i ti, fel “Pen-blwydd hapus”. Wrth ymarfer, mae’r melodi cyfarwydd yn dechrau gweithredu fel glud, sy’n helpu i alw’r gyfres o ffeithiau ‘nôl i’r meddwl yn eu trefn gywir.
Tria’r tric ‘Palas y Cof’. Cysyllta eiriau neu dermau ti’n ceisio’u dysgu gyda phethau gwahanol mewn ystafell – ystafell fyw, dyweda. Un term efo’r soffa, un efo’r teledu, ac yn y blaen; ac yna cerdda drwy’r ystafell yn dy feddwl, i ailalw’r termau rwyt ti wedi bod yn cysylltu efo’r gwahanol bethau.
Pam na wnei di greu stori wirion i gofio ffeithiau? Os wyt ti’n ceisio cofio dyddiadau allweddol Rhyfel Fietnam, er enghraifft, byddet ti’n cerdded drwy ddrws glas. Mae’r glas yn dy atgoffa o’r môr, a Gwlff Tonkin 1964. Yna, ti’n pasio rollerskates dy chwaer, sy’n dy atgoffa o Operation Rolling Thunder. Yna, ti’n pasio’r larwm tân sy’n dy atgoffa o ymosodiad Tet, 1968.
Cofia, y mwyaf gwirion yw’r stori, y mwyaf tebygol wyt ti o’i chofio.
Mae arholiadau’n gyfnod prysur, ac mae’n hawdd digalonni. Cofia fod neb yn gallu cofio popeth. Gofala am dy hun. Cymera ddigon o frêcs, cysga’n dda, cofia fwyta’n iach, ac ymarfer dy gorff, er mwyn i ti fod mor barod â phosib.
Tips cofio Dr Rob
Mae ‘na lawer o wybodaeth i’w ddysgu ac i’w gofio pan rwyt ti’n adolygu ar gyfer dy arholiadau. Mae Dr Rob yn arbenigwr iaith a chof, ac mae tips cofio ganddo sy’n gallu dy helpu di i ddysgu a chofio dy waith yn well.

Tip 1
Gwna dy adolygu dros gyfnod o wythnos neu wythnosau. Paid â gwasgu popeth mewn i un noson. Mae hyn yn debygol o arwain at golli cwsg, ac mae colli cwsg yn gallu achosi straen ychwanegol.
Tip 2
Rho brofion bach i dy hyn yn aml - mae cardiau fflach yn hawdd i’w creu a’u defnyddio - rho gwestiwn ar un ochr a’r ateb ar yr ochr arall.
Tip 3
Mae mapiau meddwl yn ffordd effeithiol o gysylltu gwybodaeth o fewn pwnc – mae’n ddull effeithiol o ‘weld’ gwybodaeth mewn arholiad.
Tip 4
Trïa adolygu yn yr un ystafell bob tro a wedyn, yn yr arholiad, rho dy hyn yn ôl yn yr un ystafell yn dy feddwl. Mae hyn yn medru dy helpu di i gofio’r wybodaeth rwyt ti wedi’i adolygu.
Tip 5
Gall cofeiriau - mnemonics - dy helpu di i ddysgu pob math o bethau. Er enghraifft, os wyt ti eisiau cofio trefn y planedau wrth symud i ffwrdd o’r Haul ar gyfer Ffiseg, pam na wnei di greu brawddeg wirion lle mae llythyren gyntaf pob gair yn cydfynd gyda llythyren gyntaf pob planed - Mae Gen i Ddau Mosgito Iach, Saith Walrws a Neidr - Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, a Neifion.
Tip 6
Trïa dric ‘palas y cof’: cysyllta eiriau neu dermau rwyt ti’n ceisio’u dysgu gyda phethau gwahanol mewn ystafell - un term gyda’r soffa, un gyda’r teledu ac yn y blaen. Yna cerdda drwy’r ystafell yn dy feddwl i alw i gof y termau rwyt ti wedi eu cysylltu gyda’r gwahanol bethau.
Tip 7
Cofia gysgu - mae angen digon o gwsg er mwyn i’r ymennydd fedru atgyfnerthu yr hyn rwyt ti wedi bod yn ei ddysgu.
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Arholiadau ac asesiadau
Mae ein tîm ifanc yn trafod ac yn rhannu eu tips nhw ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Adolygu: Sut i fod yn drefnus
Cyngor ar sut i roi trefn ar dy waith a bod yn drefnus.

Adolygu: Amserlenni a chynllunio
Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.
