Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn egluro sut aethon nhw ati i roi trefn ar eu gwaith.
Fideo: Sut i fod yn drefnus
JEIA: Dyw bod yn drefnus ddim yn dod yn hawdd i fi. Dwi’n drefnus achos bo’ fi’n gwybod bod rhaid. Mae’n hawdd llusgo traed cyn dechrau gweithio. Mae nodi tasgau mewn rhestr to do yn ffordd hawdd o wybod ble i ddechrau.
ELUNED: Edrycha ar y cynlluniau marcio, meini prawf llwyddiant a chyn-bapurau fel bod gen ti’n wybodaeth yn glir.
MANON: Dwi’n procrastinator o fri, ond deuparth gwaith yw ei ddechrau, felly unwaith dwi’n dechrau, dwi’n teimlo bo’ fi ar fy ffordd.
JACK: Dwi angen gwneud rhyw fath o deal efo fy hun, lle dwi angen gwneud hyn a hyn o waith, a wedyn dwi angen cael hyn a hyn o frêc, so dwi’n gwobrwyo fy hun o ryw fath.
LOIS: I gychwyn, dwi’n mynd i ‘stafell ddistaw, dwi’n cael fy ngwaith allan, a dwi’n cymryd anadl a jyst dechrau.
ELUNED: Rho gôl i dy hun. Gweithia at amser penodol, yna cer mas i gael hwyl gyda dy ffrindiau.
JEIA: Dwi’n hoffi creu ffolderi ar y cyfrifiadur. Mae’n haws na cadw’r gwaith ar ddarnau o bapur rhydd rownd y tŷ.
MANON: Mae fy ffeiliau i bob lliw o’r enfys, a dwi’n credu bod dividers a beiros lliwiau gwahanol yn fy helpu i i fwynhau beth dwi’n astudio.
JACK: Dwi’n defnyddio lliwiau gwahanol ar gyfer pob pwnc, so pryd dwi’n adolygu sawl pwnc mae’n haws casglu pob dim sydd yr un lliw at ei gilydd ar y diwedd. Hefyd, mae o’n edrych yn neis. Mae o braidd yn boring sbio ar nodiadau plaen.
MANON: Mae ardal daclus yn golygu meddwl taclus. Ac mae cael ardal dawel hefyd i astudio, yn fuddiol iawn.
LOIS: Mae gan bawb routine ei hun. Yn bersonol, dwi’n mynd adra, cael amser i fy hun, cael te ac wedyn dechrau adolygu.
ELUNED: Dwi’n dechrau adolygu’n syth ar ôl ysgol, fel bod y wybodaeth yn ffres yn fy meddwl. Os wyt ti’n mynd mas gyda ffrindiau ar ôl ysgol, mae ‘na lais yng nghefn eich meddwl yn dweud wrthoch chi i fynd adre i wneud y gwaith.
JACK: Dwi’n adolygu ar y penwythnos. So, bob penwythnos gwnaf i wneud sawl awr o adolygu yn y bore, ac mae’n swnio’n eithaf lot. Ond ar ôl gwneud yr oriau yn y bore mae gen i’r p’nawn cyfan bron yn rhydd wedyn. Dwi’m yn methu llawer yn y bore. Cymru ydy o – mae wastad yn bwrw!
JEIA: Dwi’n amseru fy hun ar aps gwahanol ar fy ffôn. Maen nhw’n rhoi amserlen benodol i chi ei dilyn, fel 25 munud o waith a 5 munud o hoe.
ELUNED: Alla i ddim cael ffôn wrth fy ymyl, mae’n ormod o demtasiwn. Felly dwi’n defnyddio cloc.
JEIA: Dwi’n hoffi rhannu fy mhynciau mewn i is-adrannau, er enghraifft un dudalen i bob cerdd. Mae’n hawdd i’w ddarllen ac mae’n cadw popeth yn daclus.
JACK: Mae’r bwrdd arholi wedi torri pob uned i mewn i ddarnau bach - 1.1, 1.2, a hynna ydy’r drefn dwi’n dilyn hefyd.
Tips y tîm ar sut i fod yn drefnus



Manon “Mae ardal daclus yn golygu meddwl taclus. Ac mae cael ardal dawel hefyd i astudio, yn fuddiol iawn.”
Eluned “Cyn dechrau gweithio, edrycha ar y cynlluniau marcio, meini prawf llwyddiant a chyn-bapurau fel bod gen ti’r wybodaeth yn glir.”
Jeia “Dwi’n hoffi creu ffolderi ar y cyfrifiadur. Mae’n haws na chadw’r gwaith ar ddarnau o bapur rhydd rownd y tŷ.”



Jack “Dwi’n defnyddio lliwiau gwahanol ar gyfer pob pwnc, felly pryd dwi’n adolygu sawl pwnc mae’n haws casglu pob dim sydd yr un lliw at ei gilydd ar y diwedd. Hefyd, mae o’n edrych yn neis. Mae o braidd yn boring sbïo ar nodiadau plaen.”
Lois “Mae gan bawb routine ei hun. Yn bersonol, dwi’n mynd adra, cael amser i fy hun, cael te ac wedyn dechrau adolygu.”
Cai “Dwi’n rhannu fy mhynciau yn ôl unedau, yna'n gwneud nodiadau ac yna'n adolygu'r nodiadau.”
Tips ar sut i adolygu’n effeithlon
Mae’n hawdd gadael i bethau eraill dynnu dy sylw di pan rwyt ti’n adolygu… cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol ar dy ffôn, cwrdd â ffrindiau neu wylio bocs set newydd - yna cyn i ti droi, mae'n amser mynd i'r gwely!
Dyma rai awgrymiadau ar sut i fod yn drefnus, cadw'n iach a gosod nodau i dy helpu di i gadw at dy amserlen adolygu.

Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Adolygu: Amserlenni a chynllunio
Tips ar sut i baratoi ar gyfer y cyfnod adolygu.

Adolygu: Sut i ddechrau arni
Cyngor ar sut i fynd ati i ddechrau adolygu.

Adolygu: Sut i gadw’n cŵl
Cyngor ar sut i gadw’n cŵl wrth adolygu.
