Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm a’r Criw Cynghori’n rhannu syniadau a thechnegau i dy helpu di i gadw’n cŵl ac i leihau’r straen wrth i ti adolygu.
Fideo: Sut i gadw’n cŵl
NEL: Mae TGAU yn amser anodd iawn i bawb. Mae ‘na lot fawr i’w wneud, ac felly mae’n bwysig iawn bod ‘na wahanol ffyrdd i dawelu’r meddwl.
SARA: Mae cyfnod TGAU yn gallu bod yn heriol, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gofalu am eich iechyd.
JAC: Dwi’n ceisio aros yn eithaf chilled. Dwi ddim yn hoffi poeni gormod am y what ifs i gyd, gan bo chi methu rîli rheoli nhw, felly’r peth gorau i’w wneud yw delio gyda pethau wrth iddyn nhw ddod.
SARA: Mae sawl peth allwch chi ei wneud i helpu i leddfu straen. Anadla’n araf ac yn ddwfn, cymer fath cynnes, gwranda ar gerddoriaeth leddfol – falle byddai cerddoriaeth glasurol yn helpu. Ymarfer meddwlgarwch neu mindfulness. Ysgrifenna am dy deimladau. A cymera seibiant.
BECA: Mae cael brêc bob hyn a hyn, oddi wrth unrhyw beth sy’n gallu achosi stress, yn dangos eich bod chi’n gwrando ar beth mae eich corff ei angen, yn union fel petái eich corff yn anfon neges atoch chi ei fod yn llwglyd neu’n sychedig.
MANON: Cael hoe pan mae angen, a dishgled o de!
JAC: Un ffordd dda i fi o reoli stress yw gwylio gemau chwaraeon ar fy ffôn neu ar y teledu, neu bod yng nghwmni fy ffrindiau a chwarae pêl-droed, gan ei fod y gwrthwyneb i eistedd yn unig ar bwys desg.
BECA: Gall bwyta gormod o fwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o siwgr a braster gael effaith ar ein hymddygiad, heb anghofio diodydd sy’n cynnwys caffein. Mae’n bwysig bwyta amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys carbohydradau, ffrwythau a llysiau, protein a chynnyrch llaeth, er mwyn cael diet cytbwys. Gall diet cytbwys eich helpu i reoli stress.
JONA: Dwi’n ‘stress bot,’ so mae pethau fel anadlu neu meditato, tua 5-10 munud bob dydd yn amazing ar gyfer fy iechyd meddwl a stress.
JEIA: Mae noson dda o gwsg yn bwysig iawn. Os wnei di aros fyny’n rhy hwyr, fyddi di wedi blino gormod y diwrnod nesaf i allu canolbwyntio ac adolygu.
NEL: Dwi wedi dechrau cerdded yn ddiweddar, er mwyn tawelu’r meddwl, ac er mwyn ymlacio. Gwnes i ddarganfod bod rhedeg yn ffordd lot mwy effeithiol i ddefnyddio fy amser, ac felly dwi wedi dechrau rhedeg. Mae rhedeg yn ffordd o wneud i fi deimlo’n lot mwy ymlaciol mewn diwrnod, ac mae’n gwneud fi’n hapus a ‘mod i wedi llwyddo i wneud rhywbeth.
ELUNED: Mae mor hawdd cwympo mewn i’r arfer o weithio a gweithio, ond mae hynny’n gallu arwain at or-straen. Mae ymlacio yr un mor bwysig â gweithio.
NEL: Dwi’n gweld gwaith fel un mynydd mawr ar adegau, a dwi’n teimlo ei fod yn bwysig i fi dorri’n gwaith i lawr er mwyn cael trefn ar y meddwl, a mwy o drefn ar fy amser hefyd.
ELUNED: Mae gwylio fideos doniol yn ystod brêc yn gallu helpu codi’r ysbryd, ond mae’n bwysig cadw i ffwrdd o gynnwys negyddol. Er mwyn diogelu fy iechyd meddwl, dwi’n ysgrifennu pethau i lawr, er enghraifft fy nheimladau, fy mwriadau, a pethau sydd ar fy meddwl.
JEIA: Cyn mynd i’r gwely dwi’n hoffi nodi’r holl dasgau dwi wedi eu cwblhau y diwrnod hwnnw. Mae’n helpu fi i gadw’n bositif. Dwi hefyd yn hoffi nodi’r holl dasgau dwi eisiau eu cwblhau’r diwrnod nesaf – mae’n helpu fi i gysgu.
SARA: Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n mynd yn drech, paid â’i ymladd. Anadla’n araf ac yn ddwfn, a chanolbwyntia ar ddelweddau ymlaciol a chadarnhaol. Gwnaiff y panig basio.
Tips y tîm ar gadw’n cŵl



Sara “Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n mynd yn drech, paid â’i ymladd. Anadla’n araf ac yn ddwfn, a chanolbwyntia ar ddelweddau cadarnhaol ac ymlaciol. Gwnaiff y panig basio.”
Beca “Mae cael brêc bob hyn a hyn, oddi wrth unrhyw beth sy’n gallu achosi stress, yn dangos dy fod yn gwrando ar beth mae dy gorff ei angen. Pan mae dy gorff yn anfon neges atat i ddweud ei fod yn llwglyd neu’n sychedig, ti’n gwrando arno. Gwna’r un peth pan mae’n dweud wrthot ei fod ‘dan straen.”
Manon “Cofia gael hoe pan mae angen, mae’n helpu pan ti’n teimlo dan straen.”



Jona “Dwi’n ‘stress bot,’ so mae pethau fel anadlu neu meditato, tua 5-10 munud bob dydd yn amazing ar gyfer fy iechyd meddwl a stress.”
Eluned “Mae mor hawdd cwympo mewn i’r arfer o weithio a gweithio, ond mae hynny’n gallu arwain at or-straen. Mae ymlacio yr un mor bwysig â gweithio.”
Nel “Mae rhedeg yn ffordd o wneud i fi deimlo’n lot mwy ymlaciol mewn diwrnod, ac mae’n gwneud fi’n hapus a ‘mod i wedi llwyddo i wneud rhywbeth.”



Jack “Dwi’n dysgu karate pedwar diwrnod yr wythnos ar ôl ysgol a bore Sadwrn. Mae’r amser yma a’r ymarfer corff wir yn bwysig i fi gymryd brêc o waith ysgol. Tydi gwaith ysgol ddim hyd yn oed yn dod i fy meddwl pan dwi'n gwneud karate, sy'n help mawr i ymlacio'r ymennydd.”
Jac “Un ffordd dda i fi o reoli stress yw bod yng nghwmni fy ffrindiau a chwarae pêl-droed, gan ei fod y gwrthwyneb i eistedd yn unig ar bwys desg”.
Dr Rob “Dosbartha dy adolygu dros gyfnod o wythnos neu wythnosau. Paid â gwasgu popeth mewn i un noson.”

Jeia "Cyn mynd i’r gwely dwi’n hoffi nodi’r holl dasgau dwi wedi eu cwblhau y diwrnod hwnnw. Mae’n helpu fi i gadw’n bositif. Dwi hefyd yn hoffi nodi’r holl dasgau dwi eisiau eu cwblhau’r diwrnod nesaf – mae’n helpu fi i gysgu.”
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Astudio ac ymlacio
Cyngor ar sut i gael y cydbwysedd cywir rhwng astudio ac ymlacio.

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd
Cyngor ar sut i ddelio gyda phethau’n mynd o’i le yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr
Tips, cyngor a syniadau ar sut i wneud y gorau o amser adolygu prin.
